Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu cysondeb mewn amodau, archwiliadau a gorfodaeth fydd yn sicrhau fod deddfwriaeth yn cyflawni’r diogeliad a fwriedir ar gyfer lles anifeiliaid a hefyd fridwyr dilys. Bydd rhannu arbenigedd yn rhoi gwell cydnerthedd i awdurdodau lleol a chefnogaeth ar gyfer defnyddwyr a busnesau fel ei gilydd.
Bydd gwell defnydd o adnoddau yn sicrhau tegwch a chysondeb yn y diwydiant, fydd yn sicrhau gwelliannau i iechyd a llesiant anifeiliaid yng Nghymru.