Trwyddedu Anifeiliaid Cymru

Am y datblygiadau diweddaraf o ran trwyddedu anifeiliaid yng Nghymru

Polisi Preifatrwydd

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut y defnyddiwn yr wybodaeth a gasglwn amdanoch chi a’r gweithdrefnau sydd gennym ar waith i warchod eich preifatrwydd.

Rydym yn ymroddedig i sicrhau y caiff eich preifatrwydd ei warchod. Dan Ddeddf Diogelu Data 1998 mae’n ddyletswydd gyfreithiol arnom i ddiogelu unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn gennych.

Pa ddata personol ydyn ni’n ei gadw a sut y cawn hynny

Nid ydym yn casglu a storio unrhyw wybodaeth bersonol am unrhyw un sy’n defnyddio’r wefan yma, heblaw lle dewiswch roi gwybodaeth bersonol i ni yn wirfoddol drwy’r cyfryngau cymdeithasol, e-bost neu drwy ddefnyddio ffurflen electronig ar y wefan, neu drwy holi am unrhyw rai o’n gwasanaethau.

Yn yr amgylchiadau hyn, dim ond i roi’r wybodaeth neu wasanaeth y gofynnwyd amdanynt y defnyddir eich gwybodaeth bersonol os na nodir dibenion ehangach yn y ffurflen y rhoddir yr wybodaeth arni neu yn y man casglu ar y wefan – ac os felly gellir defnyddio’r wybodaeth ar gyfer unrhyw un o’r dibenion ehangach hynny. Gofynnir i chi nodi fod Trwyddedu Anifeiliaid Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymun i gyflawni ei swyddogaethau dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, ac felly dim ond i Awdurdodau Lleol y bydd yr wybodaeth a gedwir gan Trwyddedu Anifeiliaid Cymru ar gael.

Hysbysiad Preifatrwydd Trwyddedu Anifeiliaid Cymru

Fel defnyddiwr Trwyddedu Anifeiliaid Cymru, bydd Cyngor Sir Fynwy yn casglu eich data, er enghraifft e-bost a chyfeiriad eich cartref, os dewiswch eu cyflwyno. Byddwn yn defnyddio’r rhain i gysylltu gyda chi gyda diweddariad ar eich ceisiadau am wasanaeth ac i fedru cysylltu â chi os oes angen.

Caiff eich data ei chadw’n ddiogel lle gellir ei gweld a’i rhannu lle mae angen, gan ein staff, cyflenwyr a phartneriaid, yn cynnwys cynghorau tref a chymuned o fewn Sir Fynwy neu ein contractwyr. Mae hyn yn sicrhau y gellir cyfeirio eich pryderon at ran gywir y cyngor neu at y darparydd gwasanaeth priodol os yw’n bartner. Yr ydych yn dangos eich bod yn cytuno i hyn drwy gyflwyno eich data personol.

  • • Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda unrhyw sefydliadau eraill ar gyfer dibenion marchnata, ymchwil marchnad neu fasnachol. Gallwn drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol os yw’n ofyniad cyfreithiol arnom i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth gydag adrannau eraill yng Nghyngor Sir Fynwy ar gyfer dibenion cyfreithiol eraill.
  • • Gallwch ddad-gofrestru os nad ydych yn cytuno gyda’r datganiad hwn a dim eisiau defnyddio’r gwasanaeth hwn mwyach. Gallwch wneud hyn drwy gofrestru i’ch cyfrif > Fy Nghyfrif > Dat-gofrestru fy nghyfrif neu drwy gysylltu â’n Canolfan Gyswllt. Gallwch barhau i gyflwyno adroddiadau yn ddienw; fodd bynnag ni fyddwn yn medru rhoi adborth ar unrhyw ddiweddariad ar gynnydd yn ymwneud â’ch cais.

Sefydliadau y gallwn rannu eich data personol gyda nhw

Dim ond ar gyfer dibenion Cynllun Trwyddedu Anifeiliaid Cymru y gellir defnyddio ein gwybodaeth, fodd bynnag weithiau gall Trwyddedu Anifeiliaid Cymru hefyd rannu data personol gyda sefydliadau eraill. Mae rhestr o’r sefydliadau y mae Trwyddedu Anifeiliaid Cymru yn rhannu data gyda nhw ar gael isod.

Sefydliad Math o Sefydliad Data a Rannwyd Rheswm pam
22 Awdurdod Lleol Cymru Awdurdod Lleol Data Personol Cyflawni eu swyddogaethau dan Ddeddf Llesiant Anifeiliaid 2006 a chyfrifoldebau partneriaeth
Heddlu Gwasanaeth Argyfwng Data Personol Rhannu pryderon am weithgaredd troseddol
Ambiwlans Gwasanaeth Argyfwng Data Personol Rhannu pryderon am risg i iechyd cyhoeddus
Gwasanaeth Tân Gwasanaeth Argyfwng Data Personol Rhannu pryderon am risg tân
Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch Corff Rheoleiddiol Data Personol Rhannu pryderon am ddiffyg cydymffurfiaeth gyda deddfwriaeth.
Safonau Masnachu Corff Rheoileiddiol Data Personol Rhannu pryderon am ddiffyg cydymffurfiaeth gyda deddfwriaeth.
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi Corff Rheoleiddiol Data Personol Canfod ac atal twyll.
Awdurdod Refeniw Cymru Corff Archwilio Data Personol Canfod ac atal twyll.
Archwilydd Cyffredinol Cymru Corff Rheoleiddiol Data Personol Canfod ac atal twyll fel rhan o’r cynllun Twyll Cenedlaethol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

Hysbysebu

Rhwydwaith Hysbysebu’r Cyngor sy’n gyfrifol am gyflwyno hysbysebu ar wefan Cyngor Sir Fynwy. Gofynnir i chi roi munud neu ddau i ddarllen eu polisi preifatrwydd sy’n cynnwys gwybodaeth am gwcis a manylion ar sut i optio allan: http://www.counciladvertising.net/can-privacy-policy.html

Data ystadegol

Gallwn hefyd ddefnyddio gwybodaeth ac ystadegau cronnus ar gyfer monitro defnydd y wefan i’n helpu i ddatblygu’r wefan a’n gwasanaethau. Gallwn roi gwybodaeth gronnus o’r fath i drydydd partïon. Ni fydd yr ystadegau hyn yn cynnwys gwybodaeth y gellir ei defnyddio i wybod pwy ydych.

Datgeliad

Dim ond cyhyd ag sydd angen ar gyfer y diben y’i casglwyd y byddwn yn casglu eich gwybodaeth.

Ni chaiff gwybodaeth bersonol ei datgelu i drydydd partïon os na nodir hynny ar dudalen y wefan a/neu ffurflen berthnasol adeg casglu’r wybodaeth neu fel sydd ei angen neu a ganiateir gan y gyfraith.

Defnyddio cwcis

Defnyddiwn gwcis ar ein safle. Mae cwci yn ffeil testun sy’n dynodi eich cyfrifiadur i’n serfiwr. Nid yw cwcis eu hunain yn dangos pwy yw’r defnydd unigol, dim ond y cyfrifiadur a ddefnyddiwyd.

Ni ddefnyddir cwcis i gasglu unrhyw wybodaeth bersonol.

Mae gennych gyfle i osod eich cyfrifiadur i dderbyn pob cwci, i’ch hysbysu pan gyhoeddir cwci neu i beidio derbyn cwcis ar unrhyw amser. Mae’r ffordd y gwnewch hyn yn dibynnu ar y porwr gwefan a ddefnyddiwch. Cyfeiriwch at y swyddogaeth help ar gyfer eich porwr.

Os derbyniwch gwcis, gallant aros ar eich cyfrifiadur am flynyddoedd lawer, os nad ydych yn eu dileu. Gofynnir i chi nodi y gall troi cwcis i ffwrdd gyfyngu eich defnydd o’n gwefan a’n gwasanaethau gwefan.

Sut ydym yn diogelu eich gwybodaeth

Caiff yr holl wybodaeth bersonol a gesglir ar y wefan yma ei chofnodi mewn cronfa ddata ddiogel.

Mae’n ofyniad ar ein holl weithwyr cyflogedig a phroseswyr data, sydd â mynediad i neu sy’n gysylltiedig gyda phrosesu gwybodaeth bersonol, i barchu cyfrinachedd yr wybodaeth honno.

Rydym yn sicrhau na chaiff eich data personol ei ddatgelu i sefydliadau llywodraeth ac awdurdodau heblaw os yw’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol neu yn caniatau i ni wneud hynny.

Diogelwch E-bost

Os nad ydynt wedi eu hamgodio, efallai nad yw negeseuon e-bost a anfonir drwy’r rhyngrwyd yn ddiogel a gallai rhywun arall godi’r negeseuon a’u darllen. Gofynnir i chi gadw hyn mewn cof os ydych yn penderfynu p’un ai i gynnwys gwybodaeth bersonol neu sensitif yn unrhyw negeseuon e-bost y bwriadwch eu hanfon.

Eich caniatâd

Drwy gyflwyno eich gwybodaeth rydych yn caniatáu i ddefnyddio’r wybodaeth a nodir yn y polisi hwn. Os ydym yn newid y polisi preifatrwydd, byddwn yn eich diweddaru am y newidiadau ar y dudalen hon. Bydd parhau i ddefnyddio’r gwasanaeth yn arwydd eich bod wedi cytuno i unrhyw newidiadau o’r fath.

Defnyddwyr 16 oed ac ieuengach

Os ydych yn 16 oed neu ieuengach, gofynnir i chi gael caniatâd eich rhiant/gwarcheidwad cyn y rhoddwch wybodaeth bersonol ar ein gwefan. Ni chaniateir i ddefnyddwyr heb y caniatâd hwn roi eich gwybodaeth bersonol i ni.

Pwy yw’r Rheolydd Data ar gyfer Trwyddedu Anifeiliaid Cymru

Cyngor Sir Fynwy sy’n gweithredu Trwyddedu Anifeiliaid Cymru. Felly Cyngor Sir Fynwy felly yw’r Rheolydd Data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir ar gyfer y dibenion hyn. Caiff yr holl wybodaeth a roddir ei thrin yn gyfrinachol a’i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu 2018 bob amser. I gael mwy o wybodaeth ar ofynion diogelu data y Cyngor, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data drwy e-bost ar: dataprotection@monmouthshire.gov.uk. Caiff Trwyddedu Anifeiliaid Cymru ei gynnal gan Gyngor Sir Fynwy ac mae Hysbysiad Preifatrwydd llawn y Cyngor ar gael yma.

Bydd eich sesiwn yn dod i ben ymhen xx.xx. Ydych chi'n dymuno Parhau neu Allgofnodi
Bydd eich sesiwn yn dod i ben yn xx.xx
Parhau neu Allgofnodi