Trwyddedu Anifeiliaid Cymru

Am y datblygiadau diweddaraf o ran trwyddedu anifeiliaid yng Nghymru

Rhyddid Gwybodaeth

Beth yw Rhyddid Gwybodaeth?

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn caniatáu i unrhyw un ofyn i ni ryddhau gwybodaeth sydd gennym ar unrhyw bwnc penodol.

Mae'n ofynnol i ni ddarparu'r wybodaeth oni bai bod rhesymau da dros beidio â gwneud hynny. Cydnabyddir dros ugain o resymau gan y ddeddf dros beidio â rhyddhau gwybodaeth, gan gynnwys:

  • Bydd yr wybodaeth yn costio gormod i'w chasglu
  • Mae ar gael mewn mannau eraill
  • Bwriadwn ei chyhoeddi yn y dyfodol
  • Mae'n ymwneud â pherson byw
  • Casglwyd yr wybodaeth at ddibenion ymchwiliadau neu achosion y mae gennym hawl i'w cynnal, megis gorfodi

Mewn llawer o achosion, bydd yn rhaid inni benderfynu a yw budd y cyhoedd o ran peidio â rhyddhau'r wybodaeth yn gryfach na budd y cyhoedd wrth ei rhyddhau.

Cynllun cyhoeddi

Mae Trwyddedu Anifeiliaid Cymru wedi mabwysiadu cynllun cyhoeddi enghreifftiol y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae’n nodi’r mathau o wybodaeth y mae’r sefydliad yn bwriadu eu gwneud ar gael fel arfer. Y bwriad yw y dylai’r wybodaeth fod yn rhwydd i’r sefydliad ac unrhyw unigolyn ei chanfod a’i defnyddio.

https://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-freedom-of-information/publication-scheme/

Edrychwch eich hun ...

ar rai o'r ceisiadau rhyddid gwybodaeth mwy cyffredin a dderbyniwn. Rydym yn cyhoeddi'r wybodaeth ar y wefan.

Rydym yn cyhoeddi'r ymatebion i geisiadau a dderbyniwn yn aml ar y dudalen Cofnod Datgelu Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth.

Fel arall, efallai y byddai'n werth gwirio ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth blaenorol a gyflwynwyd drwy Beth maen nhw'n ei wybod.

Gwneud cais

Y ffordd orau o wneud cais Rhyddid Gwybodaeth yw drwy ebost at: foi@monmouthshire.gov.uk

Fel arall, drwy lythyr at: Rhyddid Gwybodaeth, Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Ewch i adran Preifatrwydd ein gwefan os gwelwch yn dda i gael gwybodaeth ar sut ydym yn trin a phrosesu eich data personol.

Bydd eich sesiwn yn dod i ben ymhen xx.xx. Ydych chi'n dymuno Parhau neu Allgofnodi
Bydd eich sesiwn yn dod i ben yn xx.xx
Parhau neu Allgofnodi