A ydych chi'n gwerthu anifeiliaid anwes? Efallai y bydd angen trwydded arnoch
Cyflwynwyd Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 yng Nghymru ym mis Medi 2021 i sicrhau bod unrhyw un sy’n gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes am elw yn meddu ar drwydded a’u bod yn cadw at y safonau lles anifeiliaid gofynnol.
Mae'r diagram isod yn ganllaw cyflym i benderfynu a oes angen trwydded TGYA arnoch o dan Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud Anifeiliaid) (Cymru) 2021. Dylid gwneud ceisiadau am drwydded TGYA i'ch Cyngor lleol. Bydd gwybodaeth am sut i wneud cais ar gael ar wefan eich Cyngor lleol.
Gellir dod o hyd i ganllawiau pellach ar eithriadau, gwahanol fathau o anifeiliaid, cadw cofnodion, staffio, amgylcheddau addas, dietau addas, monitro ymddygiad a hyfforddiant anifeiliaid, trin anifeiliaid, diogelwch anifeiliaid, hysbysebu a darpar werthiannau yn y ddolen isod:
https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-10/rheoliadau-lles-anifeiliaid-trwyddedu-gweithgareddau-sy%E2%80%99n-ymwneud-ag-anifeiliaid-cymru-2021-canllaw_0.pdf?fbclid=IwY2xjawFzgqhleHRuA2FlbQIxMAABHcO6IsRJQOZ2GdrkVdhifGftqSMb9PcwVHw5L3cg1WIZkCS18dzoggUlSg_aem_8s5eaSTcOJuobelwvmdgFg
Erthygl flaenorol