Ymddygiad Tuag at Swyddogion Awdurdodedig a Phwerau Mynediad O dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006
Rydym yn ysgrifennu i atgoffa pob bridiwr cŵn trwyddedig o'r rhwymedigaethau cyfreithiol a'r disgwyliadau ynghylch ymddygiad tuag at swyddogion awdurdodedig sy'n gweithredu o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.
Mewn arolygiadau diweddar, mae rhai swyddogion wedi dioddef ymddygiad annerbyniol, gan gynnwys cam-drin geiriol a bridwyr yn gwrthod caniatáu mynediad i swyddogion. Rydym am ei gwneud yn gwbl glir na fydd ymddygiad o'r fath yn cael ei dderbyn.
O dan Adran 26 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, mae gan arolygwyr awdurdodedig yr hawl gyfreithiol i fynd i mewn i adeilad at ddiben archwilio cydymffurfiaeth ag amodau trwydded a darpariaethau perthnasol eraill y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys:
- Mynediad i’r adeilad a bennir mewn trwydded fel un a awdurdodwyd ar gyfer y gweithgaredd.
- Mynediad i’r adeilad lle mae'r arolygydd yn credu'n rhesymol bod y gweithgaredd trwyddedig yn cael ei gynnal.
Sylwch, er bod mynediad i anheddau preifat yn gofyn am rybudd o 24 awr, gall gwrthod mynediad i adeilad awdurdodedig neu ymddygiad rhwystrol fod yn drosedd.
Gall rhwystro swyddog awdurdodedig rhag cyflawni ei ddyletswyddau arwain at ganlyniadau cyfreithiol. Mae hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Gwrthod mynediad i adeilad neu safle heb gyfiawnhad cyfreithiol.
- Cam-drin swyddogion ar lafar neu eu bygwth.
- Ymyrryd â'r broses arolygu.
Gellir ystyried gweithredoedd o'r fath yn rhwystr o dan y Ddeddf, ac mae modd iddynt arwain at gamau gorfodi, gan gynnwys erlyniad.
Bydd gwrthod mynediad a/neu ymosod yn cael eu hystyried a gallant effeithio ar y penderfyniad i gyhoeddi neu adnewyddu trwydded. Rydym yn annog pob bridiwr i gydweithredu'n llawn ag arolygiadau a thrin swyddogion â pharch a phroffesiynoldeb. Mae'r arolygiadau hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau lles anifeiliaid a chynnal y safonau a ddisgwylir gan fridwyr trwyddedig.
Erthygl flaenorol