Trwyddedu Anifeiliaid Cymru

Am y datblygiadau diweddaraf o ran trwyddedu anifeiliaid yng Nghymru

Hygyrchedd

Mae sicrhau bod modd i bawb ddarllen gwybodaeth ar wefan Trwyddedu Anifeiliaid Cymru yn flaenoriaeth bwysig. Felly rydym wedi cyflwyno’r nodweddion canlynol.

Byselli Parod

Mae gan y rhan fwyaf o borwyr fyselli parod at ddolenni neu dudalennau penodol. Rydych yn eu defnyddio drwy bwyso mwy nag un fysell ar yr un pryd tra’ch bod chi ar y wefan. Ar Windows, gallwch bwyso ALT a bysell barod; ar Macintosh, gallwch bwyso Control a bysell barod.

Gallwch fynd i rai tudalennau penodol ar y wefan hon drwy ddefnyddio byselli parod (a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU):

Bysell barod s – Neidio gwe-lywio i gynnwys tudalen
Bysell barod 1 – Mynd i’r hafan
Bysell barod 8 – Cyswllt
Bysell barod 0 – Byselli mynediad a hygyrchedd (y dudalen hon)

Strwythur a chynnwys y wefan

Gwe-lywio

Rydym wedi ceisio’i gwneud yn hawdd dod o hyd i bopeth ar y wefan. Mae’r prif ddewislenni gwe-lywio yn rhai testun, heb ddelweddau na Javascript.

Dewislenni penawdau a gwe-lywio

Defnyddir tagiau penawdau HTML i gyfleu strwythur dogfen. Defnyddir tagiau H1 ar gyfer y prif deitlau a thagiau H2 ar gyfer isdeitlau ac ati.

Delweddau

Mae pob delwedd a ddefnyddir ar y wefan hon yn cynnwys nodweddion tag alt disgrifiadol. Pan nad oes gan ddelwedd ddefnydd onid i addurno’r dudalen, defnyddir tag alt i’w diffodd i’w gwneud yn haws i bawb ddarllen y wefan.

Lliwiau

Rydym wedi ceisio sicrhau bod cyfuniadau lliw ffont a chefndir y wefan yn cyferbynnu’n helaeth a’u bod yn effeithiol wrth sicrhau ei bod yn dal yn hawdd darllen gwybodaeth gyda chyfuniadau lliw gwahanol.

Os ydych am newid lliwiau’r wefan, gallwch wneud hynny drwy newid gosodiadau’ch porwr.

Maint ffont

Gallwch newid maint y ffont ar y wefan drwy ddefnyddio'r rheolaethau safonol sy’n cynnwys dal y Fysell Ctrl i lawr a phwyso’r botymau + (chwyddo) neu – (lleihau) ar eich bysellfwrdd. Neu fel arall daliwch y Fysell Ctrl i lawr a sgroliwch olwyn eich llygoden (os oes gennych un).

Dalenni arddull

Mae’r wefan hon yn defnyddio dalenni arddull ar gyfer rhai elfennau o’r cynllun gweledol. Os nad yw’ch porwr neu’ch dyfais pori’n cefnogi dalenni arddull o gwbl, neu’ch bod wedi’u diffodd, rydym wedi ceisio sicrhau bod o hyd fodd i ddarllen cynnwys pob tudalen, a sicrhau bod pob tudalen â strwythur glir iddi heb ddalenni arddull.

Tablau

Fel y gall darllenwyr sgrîn eu cyfleu’n eglur, lle y bo’n briodol rydym wedi defnyddio'r tag TH i farcio penawdau colofnau.

Nid yw tablau a ddefnyddir i wella cynllun y wefan yn defnyddio'r nodweddion uchod, i sicrhau na chânt eu drysu â thablau data.

Ffurflenni a meysydd

Mae pob ffurflen a maes yn dilyn dilyniant tab rhesymegol i sicrhau y gallwch eu gwe-lywio’n hawdd.

Mae gan feysydd ffurflenni nodweddion ‘id’ hefyd sy’n cysylltu’r maes â’i label priodol i sicrhau ei bod yn hawdd nodi data.

Dolenni

Ysgrifennwyd pob dolen fel ei bod yn gwneud synnwyr o’i chodi o’i chyd-destun. Lle y bo’n briodol, rydym hefyd wedi ychwanegu nodweddion teitl dolen i ddisgrifio’r ddolen yn fanylach.

Copi

Rydym wedi ceisio sicrhau bod y copi ar ein gwefan wedi’i osod yn strwythuredig ac yn syml.

Gwybodaeth porwr

Lle y bo’n bosibl, byddem yn argymell diweddaru eich porwr i’r fersiwn ddiweddaraf i fanteisio’n llawn ar y wefan hon.

Mae’r wefan hon yn gweithio gyda:
Mozilla Firefox 2.0
Apple Safari 1.0
Microsoft IE 6 & 7

Bydd eich sesiwn yn dod i ben ymhen xx.xx. Ydych chi'n dymuno Parhau neu Allgofnodi
Bydd eich sesiwn yn dod i ben yn xx.xx
Parhau neu Allgofnodi