Epidemig Lles Anifeiliaid Cudd y Deyrnas Unedig
Cafodd chwyldro bridio ar gyfer ein hanifeiliaid ei lansio gyda chyhoeddi’r Dull Asesiad Iechyd Cynhenid (IHA) – rhestr wirio 10-pwynt ar gyfer gwell bridio cŵn. Mae’r IHA, a luniwyd mewn partneriaeth â Pet Proov a’r sector milfeddygol, yn seiliedig ar 15 mlynedd o ymchwil gan y Coleg Milfeddygol Brenhinol. Mae’n RHAD AC AM DDIM i’w ddefnyddio drwy wefan newydd IHA a’i nod yw annog bridio cŵn iachach.
Ers dros ganrif, mae pobl wedi addasu sut mae cŵn yn edrych i gyd-fynd â ffasiwn a syniadau am yr hyn sy’n ddeniadol. Cafodd cŵn eu bridio’n fwriadol i gael nodweddion corfforol eithafol ac, fel canlyniad, rydym wedi creu problem llesiant enfawr ar gyfer cŵn ac ‘argyfwng cydffurfiad eithafol’. Mae cydffurfiadau eithafol yn siapiau corff nad ydynt yn bodoli mewn natur ac sydd â risg uchel o broblemau iechyd a lles sylweddol yn amrywio o broblemau anadlu, cyflyrau poenus ar y llygaid, heintiadau croen, problemau gydag asgwrn y cefn a chymalau, diffygion niwrolegol, dallineb, byddardod a disgwyliad oes byrrach. Rydym wedi bridio cŵn gyda galluoedd cyfyngedig, iechyd gwaelach a llai o ansawdd bywyd a ddangosir gan ymchwil filfeddygol.
Cafodd ‘Asesiad Iechyd Cynhenid’ y Grŵp Seneddol Ollbleidiol ar Les Anifeiliaid (APGAW) ei greu i fynd i’r afael â’r mater hwn a dechrau chwyldro bridio fydd yn arwain at gŵn corfforol iachach. Yn rhwydd ac yn gyflym ei ddefnyddio, mae’n rhoi rhestr wirio weledol o 10 maen prawf cydffurfiad allweddol sy’n eithafol mewn llawer o gŵn, gan arwain at oes o ddioddef.
Mae’r IHA yn galluogi pob bridiwr, perchennog ci neu ddarpar berchennog ci i wirio nodweddion iechyd cynhenid unrhyw gi a pha mor addas ydynt i fridio a/neu eu cael. Nid oes angen unrhyw offer na chymorth milfeddygol ac mae’n llywio defnyddwyr gam-wrth-gam drwy bob un o'r 10 maen prawf, gyda chyfarwyddiadau llawn ar sut i asesu pob un.
Ar gyfer cŵn a all fod â rhai o’r 10 cydffurfiad eithafol, gall yr IHA helpu perchnogion drwy godi ymwybyddiaeth o’r anawsterau a all eu hwynebu a sut i ofalu amdanynt ond hefyd sut i sicrhau fod gan genedlaethau’r dyfodol y gallu i fyw bywyd iachach a hirach. Ni ddylid defnyddio ci ar gyfer bridio os nad yw’n pasio’r IHA.
Wedi ei greu gan dîm IHA APGAW, yr Athro Dan o’Neill o’r Coleg Milfeddygol Brenhinol,
Marisa Heath, Cyfarwyddwr APGAW a Vanessa Barnes, Cynghorydd Cyfreithiol APGAW, caiff yr IHA yn awr ei gefnogi gan Ganolfan Cyfraith Anifeiliaid y Deyrnas Unedig, Agria Pet Insurance, APDAWG, Battersea, BSAVA, y Gymdeithas Filfeddygol Brydeinig, Blue Cross, Dogs Trust, FOUR PAWS UK, Frontier Economics, GCCF, Hope Rescue, The Kennel Club, LAGECDogs, Naturewatch Foundation, PetPlan, PDSA, RSPCA, y Coleg Milfeddygol Brenhinol, UFAW ac Woodgreen.
Dywedodd Marisa Heath, Cyfarwyddwr APGAW:
“Mae bridio cŵn gyda nodweddion eithafol yn un o’r problemau llesiant mwyaf sy’n effeithio ar ein hanifeiliaid hanwes ac mae miloedd o gŵn yn ei chael yn anodd cyflawni eu swyddogaethau beunyddiol sylfaenol oherwydd y broblem hon. O fewn y Grŵp Seneddol Ollbleidiol ar Les Anifeiliaid, rydym yn benderfynol i drin hyn ac i ddod â’r sector anifeiliaid anwes ynghyd i atal arfer bridio gwael. Gobeithiwn y bydd y Llywodraeth yn cefnogi’r cynllun hwn a dangos y bydd y Deyrnas Unedig yn genedl flaenllaw ar les anifeiliaid ac yn diogelu’r cyhoedd rhag bod yn berchen anifeiliaid sy’n byw yn anghysurus a mewn poen.”
Dywedodd Vanessa Barnes, Cynghorydd Cyfreithiol APGAW:
“Gyda lansiad yr IHA, gobeithiwn addysgu pobl i fod yn fwy cyfrifol, gan ddenu eiriolwyr a all ledaenu’r gair am yr IHA a’r angen i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol hon. Rydym yn rhoi’r grym yn nwylo’r cyhoedd i roi diwedd ar y ganrif o ddioddefaint a achosir i gŵn gan arferion bridio cydffurfiad eithafol. Mae’r hyn y gofynnwn amdano yn syml – os nad yw’r ci yn pasio’r IHA – peidiwch â’u bridio na phrynu cŵn bach ganddynt. Yn y ffordd hon gall pawb chwarae eu rhan wrth wella llesiant cŵn.”
RSPCA
“Mae’r RSPCA yn gryf o blaid mesurau sy’n gostwng y niwed sylweddol a achosir o fridio gyda nodweddion corfforol eithafol. Mae gan yr IHA y potensial i helpu osgoi bridio gan yr anifeiliaid yr effeithir waethaf arnynt er mwyn atal dioddefaint yn y dyfodol.”
Y Gymdeithas Filfeddygol Brydeinig
“Bydd yr IHA yn ddull gwerthfawr i helpu sicrhau dethol anifeiliaid yn well ar gyfer bridio a chydymffurfiaeth bridwyr gyda deddfwriaeth lles anifeiliaid, yn arbennig mewn bridiau gyda chydffurfiad eithafol. Mae’n ategu profion ar gyfer nodweddion genynnol, tebyg i Gynlluniau Iechyd Cŵn y Kennel Club a’r BVA.”
Yr Athro Dan O’Neill, y Coleg Milfeddygol Brenhinol
“Mae cŵn yn aelodau annwyl iawn o’n teuluoedd ond gwaetha’r modd mae llawer yn dioddef bywyd byrrach a thruenus oherwydd problemau iechyd a llesiant difrifol yn gysylltiedig â’u siâp corff eithafol. Mae dull IHA yr APGAW yn helpu bridwyr i osgoi bridio o anifeiliaid sydd ag iechyd cynhenid wael ac felly yn gweithredu i ostwng dioddefaint cenedlaethau o gŵn yn y dyfodol a a achoswyd drwy fod â siapiau corff eithafol.”
Ewch it www.innatehealthassessment.org i roi cynnig ar y restr wirio ar eich ci a darllen mwy am y gwaith. #BreedingRevolution #IHA
Mae sylwadau pellach ar gael ar gais gan y tîm ehangach yn cynnwys yr Athro Sandy Trees a Dr Neil Hudson AS sy’n cyd-gadeirio y APGAW.
Cysylltwch â marisa@apgaw.org neu info@apgaw.org i gael mwy o wybodaeth ar yr IHA
Pwyntiau eglurdeb yr IHA:
- Rydym yn credu fod gan gŵn hawl i symud yn rhydd, anadlu’n arferol, smicio llygaid, cysgu’n drwm, crafu eu hunain a chyfathrebu.
- Nid yw rhestr wirio yr IHA yn benodol i fridiau – mae’n ymwneud ag iechyd a llesiant cŵn unigol.
- Nod yr IHA yw addysgu a pharatoi pobl i wneud dewisiadau gwell. Nid yw’n bodoli i feirniadu anifeiliaid anwes presennol a all fod â nodweddion eithafol. Yn hytrach, rydym eisiau helpu perchnogion i ofalu am y ci hwnnw ac ystyried dewis gwahanol yn y dyfodol.
- Mae’n groes i’r gyfraith i fridwyr masnachol gynhyrchu cŵn bach neu gael ast yn feichiog os oes siawns rhesymol y bydd yr ast neu’r cŵn bach yn debygol o ddioddef o broblemau iechyd neu llesiant.
- Nid yw iechyd cydffurfiadol yn gyfartal ag iechyd cyflawn – dylid gwirio profion iechyd eich brid.
- Nid nod y rhestr wirio yw gwahardd bridiau (cam y mae gwledydd eraill yn ei gymryd) ond eu hamddiffyn. Mae’n cynnig llwybr i fridiau sy’n gysylltiedig â chŵn yn dangos cydffurfiadau eithafol i symud tuag at gydffurfiadau cymedrol ac sy’n cydymffurfio’n gyfreithiol. Mae’r lluniau isod o ddeallusrwydd artiffisial yn dangos y potensial i symud brid sy’n dangos nodweddion eithafol tuag at fersiwn o’r brid hwnnw heb y nodweddion eithafol hynny. Pe byddai pob bridiwr yn mabwysiadu’r IHA ac ond yn cytuno i fridio cŵn sy’n ei basio, dim ond dai nei dri cylch bridio y byddid yn ei gymryd i weld gwahaniaeth amlwg mewn cydffurfiad mwy cymedrol o ran cenedlaethau’r dyfodol o gŵn bach.

Erthygl flaenorol