Canllawiau ar fewnforio anifeiliaid

Mae gofynion neilltuol wrth symud anifeiliaid rhwng Prydain Fawr a gwledydd eraill.

Er fod y Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd yn 2021, mae rhai darnau o ddeddfwriaeth (a elwir yn ‘gyfraith a gymhathwyd’ ) yn parhau yn weithredol. Mae’r cyfreithiau hyn yn parhau mewn grym nes cânt eu disodli gan ddeddfwriaeth newydd yn y Deyrnas Unedig, eu diddymu neu y caniateir iddynt ddod i ben.

I ddeall y canllawiau hyn, mae’n bwysig nodi’r gwahaniaeth rhwng y Deyrnas Unedig a Phrydain Fawr:

    • Y Deyrnas Unedig: Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon

    • Prydain Fawr: Lloegr, yr Alban a Chymru

Yn y canllawiau hyn, caiff y geiriau ‘rhaid’ neu ‘rhaid peidio’ eu defnyddio pan mae gofyniad cyfreithiol i wneud (neu beidio gwneud) rhywbeth. Caiff y gair ‘dylai’ ei ddefnyddio pan mae canllawiau cyfreithiol neu arfer gorau wedi ei sefydlu sy’n debygol o’ch helpu i osgoi torri’r gyfraith.

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer Cymru, Lloegr  a’r Alban.

Wrth fewnforio anifeiliaid, mae’n rhaid i bob person perthnasol sicrhau y cânt eu hadnabod yn gywir, eu bod mewn iechyd da a bod y dogfennau cywir ganddynt. Mae hefyd ofynion dogfennau ar gyfer cynnyrch plasma cynhyrchu ac egino.

DOGFENNAU GOFYNNOL

Mae angen i fewnforion o anifeiliaid byw a chynnyrch plasm cynhyrchu/egino (semen, ofa ac embryo) ddod gydag un neu’r cyfan o’r canlynol.

Dogfen fasnachol. Dylai hyn gael ei ddarparu gan y cyflenwr. Mae’n cynnwys:

    • enw’r sawl sy’n danfon

    • enw’r sawl sy’n derbyn

    • manylion y llwyth

Dogfen mewnforio. Mae hyn yn rhoi manylion y:

    • rhywogaeth / cynnyrch

    • gwlad tarddiad

    • porthladd mynediad / man archwilio ar y ffin

Gall hefyd gynnwys amodau penodol.

Tystysgrif iechyd. Mae hon yn ddogfen swyddogol a gaiff ei llofnodi gan naill ai filfeddyg swyddogol neu swyddog awdurdodedig. Mae’n cadarnhau fod y mewnforiad yn ateb gofynion iechyd y gyrchwlad. Mae’n rhaid i’r dystysgrif wreiddiol deithio gyda’r llwyth. Bydd y dystysgrif iechyd yn cynnwys rhif hysbysu unigryw (UNN); fformat y rhif hwn fydd  IMP.GB.2025.1XXXXXX.

Mae angen tystysgrifau iechyd ar gyfer mewnforio’r canlynol:

    • anifeiliaid byw

    • is-gynnyrch anifeiliaid

    • bwyd risg uchel neu borthiant heb fod o darddiad anifail

Cofnodion taith. Mae’r rhain yn ddogfennau ar wahân sy’n rhaid iddynt fynd gyda’r llwyth, yn ogystal â’r holl ddogfennau eraill sydd eu hangen. Maent yn cynnwys gwybodaeth am y cynllun ar gyfer y daith, man gadael a chyrchfan, yn ogystal â datganiad y cludydd. Ar gyfer symudiadau anifeiliaid byw o’r Undeb Ewropeaidd i neu drwy Brydain Fawr, mae angen i’r Aelod Wladwriaeth tarddiad yn yr Undeb Ewropeaidd gymeradwyo cofnod taith, yn ogystal â chofnod taith a gymeradwywyd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Mae angen dau gofnod taith wedi eu cymeradwyo’n swyddogol ar gyfer pob llwyth a gaiff ei fewnforio.

Dim ond gan fusnesau a gymeradwywyd gan yr Undeb Ewropeaidd i fasnachu gyda’r Deyrnas Unedig y gellir mewnforio cynnyrch eginol i’r Deyrnas Unedig.

Datganiad tollau. Mae’r Gwasanaeth Datgan Tollau (CDS)  yn system adrodd cronfa ddata sy’n galluogi cadw cofnodion o symudiad nwyddau ar y môr, drwy’r awyr ac ar dir. Mae’n gwirio’n awtomatig ar gyfer camgymeriadau cofnodion ar fewnbynnau a wneir fel rhan o ddatganiadau tollau gan fewnforwyr, allforwyr a phartïon eraill perthnasol.

Mae’n rhaid hysbysu’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ymlaen llaw, yn defnyddio’r System Mewnforio Cynnyrch, Anifeiliaid, Bwyd a Phorthiant (IPAFFS) , am holl fewnforion anifeiliaid byw a sgil-gynnyrch anifeiliaid (yn cynnwys plasm cenhedlu) o’r Undeb Ewropeaidd i Brydain Fawr. Gellir rhoi hysbysiad ymlaen llaw o’r llwyth hyd at 30 diwrnod o flaen llaw, ond rhaid ei wneud dim mwy nag un diwrnod gwaith cyn cyrraedd. Lle mae angen copi o dystysgrif iechyd ar gyfer llwyth neilltuol, mae’n rhaid ychwanegu hynny at yr hysbysiad mewnforio perthnasol ar IPAFFS.

CEFFYLAU

Defnyddir y gair ‘ceffylau’ yma i gyfeirio at bob ‘equidae’ neu ‘anifail/anifeiliaid ceffylaidd’, a gaiff eu diffinio yn Rheoliad (UE) 2015/26 a gymhathwyd sy’n gosod rheolau yn unol â Chyfarwyddebau  90/427/EEC a 2009/156/EC yng nghyswllt y dulliau ar gyfer dynodi equidae (Rheoleiddiad Pasport Ceffylau) fel “mamaliaid carngaled gwyllt neu wedi’u domestigeiddio o bob rhywogaeth o fewn genws Equus y teulu Equidae, a’u croesiadau” – er enghraifft, ceffyl, asyn, mul, bastard mul (asen), sebra, Przewalski, neu eu croesiadau.

Gellir cynnal profion ar geffylau cyn eu mewnforio er fod rhai eithriadau.

Nid yw ceffylau sydd wedi cofrestru gyda changen genedlaethol o gorff rhyngwladol ar gyfer chwaraeon neu ddibenion cystadleuaeth, neu lyfr gre a gymeradwywyd gan yr Undeb Ewropeaidd, angen profion cyn eu mewnforio pan gânt eu mewnforio o’r Undeb Ewropeaidd neu Norwy. Mae angen i unrhyw geffylau na all hawlio’r eithriad rhag profion i gael eu profi ar gyfer arteritis feirysol ceffylaidd ac anaemia heintus ceffylaidd.

Mae’n rhaid i berchennog unrhyw geffyl sy’n dod mewn i Brydain Fawr heb basbort ceffyl a gyhoeddwyd gan gorff rhyngwladol wneud cais am basbort ceffylau o fewn 30 diwrnod o ddod i mewn i’r wlad. Ni fedrir newid perchnogaeth nes y cyhoeddir y pasbort. Gall ceffylau sy’n dod i mewn i Brydain Fawr gyda dogfen adnabod gael eu hystyried yn ddilys os ydynt yn cydymffurfio gydag amodau gosod.

Bydd angen adnabod y ceffyl yn unol â rheolau Prydain Fawr a bydd angen microsglodyn pan roddir pasbort i’r anifail. Os canfyddir fod gan y ceffyl ficrosglodyn eisoes, gall fod yn bosibl defnyddio’r dull adnabod hwn a diweddaru’r pasbort presennol. Mae’n rhaid i unrhyw basbort a gyhoeddir felly ddatgan na fwriedir i’r ceffyl gael ei fwyta gan bobl.

MOCH

Mae’n rhaid i unrhyw foch a gaiff eu mewnforio i Brydain Fawr o urhyw le tu allan i Brydain Fawr gael tag clust neu tatŵ a roddir o fewn 30 diwrnod o gyrraedd yn cynnwys y llythyrau ‘UK’, marc cenfaint y safle cyrchfan a’r llythyren ‘F’. Caiff moch a gaiff eu symud yn uniongyrchol i ladd-dy trwyddedig a’u lladd o fewn 30 diwrnod o gyrraedd eu heithrio o’r gofyniad hwn.

GWARTHEG

Gweler yr wybodaeth am gofrestru ceffylau a fewnforiwyd neu a symudwyd i Loegr nau Gymru  ar wefan GOV.UK a/neu’r wybodaeth mewnforio yng nghanllawiau Llywodraeth yr Alban ar adnabod a’r gallu i olrhain da byw .

CYFNODAU YNYSU AR GYFER DA BYW A GAFODD EU MEWNFORIO

Rhaid mynd â gwartheg, defaid, geifr a moch a fewnforiwyd ar gyfer bridio a chynhyrchu yn ddi-oed o safle rheolaethau’r ffin i’r gyrchfan a rhaid eu cadw yno am o leiaf 30 diwrnod, os na chânt eu hanfon i ladd-dy. Mae’n rhaid i anifeiliaid y bwriedir iddynt gael eu lladd ar unwaith gael eu cludo yn ddi-oed o safle rheolaethau’r ffin i’r lladd-dy lle dylent gael eu lladd cyn gynted ag sydd modd ond o leiaf o fewn pum diwrnod gwaith.

Dylai dofednod a ratidau gael eu cadw ar safle’r gyrchfan am chwe wythnos neu tan y diwrnod lladd. Gellir gostwng y cyfnod ynysu i dair wythnos fel canlyniad i ganlyniadau negyddol i brofion haint.

Gall fod angen i rai rhywogaethau eraill aros yn y safle cyrchfan am 48 awr.

Gall llwythi fod angen gwiriadau ar ôl eu mewnforio; bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn rhoi cyngor priodol ar hyn.

ANIFEILIAID A RHYWOGAETHAU ANFRODOROL, YN CYNNWYS PRESWYLWYR SW

Mae angen un neu fwy o’r dogfennau canlynol pan gaiff cathod, cŵn neu ffuredau eu mewnforio i Brydain Fawr:

    • tystysgrif iechyd anifail

    • pasbort anifail anwes

    • tystysgrif Prydain Fawr ar iechyd anifail anwes

Mae’r gofynion dogfennol yn ddibynnol ar y wlad tarddiad. Mae manylion llawn ar fewnforio anifeiliaid anwes  ar gael ar wefan GOV.UK.

MEWNFORIO ANIFEILIAID ANWES YN FASNACHOL

Wrth fewnforio cŵn, cathod neu ffuredau sydd yn mynd i gael eu gwerthu, eu hailgartrefu neu drosglwyddo eu perchnogaeth, caiff y symudiad hwn ei ystyried yn fewnforio masnachol. Os ydych yn mewnforio mwy na phum cath, ci a/neu ffured a/neu os na fedrwch deithio i fod gyda’r anifeiliaid anwes bum diwrnod cyn iddynt gyrraedd Prydain Fawr, byddai hyn hefyd yn cael ei ystyried yn fewnforio masnachol.

Mae’n rhaid i fewnforion masnachol anifeiliaid anwes – yn ogystal â llawer o anifeiliaid sw a labordy - gydymffurfio â Chyfarwyddeb Balai sy’n cynnwys yr hyn sydd ei angen i symud rhai anifeiliaid (a’u plasm cenhedlu) nad ydynt yn dda byw traddodiadol. Mae amodau teithio hefyd yn cynnwys triniaeth llyngyr mewn cŵn, brechiadau y gynddaredd a microsglodion.

Mae’n rhaid i fewnforion ymlusgiaid, intertebrata (heblaw gwenyn, molysgiaid a chramenogion) ac amffibiaid (heblaw salamandrau):

    • gael eu hysbysu i’r System Mewnforio Cynnyrch, Anifeiliaid, Bwyd a Phorthiant o leiaf un diwrnod gwaith cyn iddynt gyrraedd

    • bod â datganiad allforiwr ynghylch ffitrwydd i deithio

    • bod â dogfen yn rhoi manylon tarddiad y llwyth, y rhywogaeth, nifer y preswylwyr a’u cyrchfan

Mae unrhyw anifail a gaiff ei restru gan y Confensiwn ar Fasnach Rhyngwladol mewn Rhywogaethau o Ffawna a Fflora Gwyllt Sydd mewn Perygl (CITES) angen trwydded neu dystysgrif i gael eu mewnforio. Mae hefyd angen y dogfennau hyn ar gyfer symudiadau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Mae’n rhaid dynodi’r targed model gweithredu risg mewnforio ar gyfer y nwyddau a gaiff eu mewnforio ac mae’n rhaid dilyn y rheolau iechydol a ffytosanidol ar gyfer y categori risg mewnforio perthnasol. Mae manylion llawn categorïau risg  ar gael ar wefan GOV.UK.

MWY O WYBODAETH

Mae gwybodaeth fanylach ar gludo anifeiliaid a chynnyrch anifeiliaid drwy Brydain Fawr  a mewnforio anifeiliaid byw  ar gael ar wefan GOV.UK. Gweler hefyd gasgliad GOV.UK o ganllawiau ar fewnforio anifeiliaid byw neu gynnyrch anifeiliaid.

Mae Porth Milfeddygol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn rhoi gwybodaeth fanylach am  fewnforio anifeiliaid byw a deunydd genynnol.

SAFONAU MASNACH

I gael mwy o wybodaeth ar waith y gwasanaethau Safonau Masnach – a chanlyniadau posibl peidio cydymffurfio â’r gyfraith – gweler ‘Safonau Masnach: pwerau, gorfodaeth a chosbau’.

Deddfwriaeth allweddol

Gofynnir i chi nodi

Bwriedir yr wybodaeth hon fel canllawiau; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o’r gyfraith.

Efallai mai dim ond fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth y bydd dolenni ‘Deddfwriaeth allweddol’ y canllawiau hyn yn eu dangos er bod dolen ar wahân i beth ddeddfwriaeth ddiwygio lle mae’n gysylltiedig yn uniongyrchol â chynnwys canllawiau. Mae gwybodaeth ar newidiadau i deddfwriaeth ar gael ar dab 'Mwy o Adnoddau' pob dolen. 

Erthygl flaenorol
Bydd eich sesiwn yn dod i ben ymhen xx.xx. Ydych chi'n dymuno Parhau neu Allgofnodi
Bydd eich sesiwn yn dod i ben yn xx.xx
Parhau neu Allgofnodi