Trwyddedu Anifeiliaid Cymru

Am y datblygiadau diweddaraf o ran trwyddedu anifeiliaid yng Nghymru

Dirwy i fridiwr cŵn o Geredigion am fethu â chydymffurfio â thrwydded bridio cŵn

Roedd Mr Dorian Wyn Jones eisoes wedi'i gael yn euog yn Llys Ynadon Aberystwyth o redeg sefydliad bridio cŵn trwyddedig ymhell tu hwnt i'r nifer a ganiateir ar ei drwydded, a bod y cŵn dan ei ofal yn cael eu cadw mewn amodau gorlawn.
 
Clywodd y Llys dystiolaeth fod Mr Dorian Wyn Jones wedi cael trwydded ar gyfer 33 o gŵn.  Fodd bynnag, yn ystod ymweliad gan Swyddogion Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion ar 07 Awst 2019, daethant o hyd i 91 o gŵn yn y safle ac eithrio cŵn bach, yn groes i'w drwydded.  Roedd y cŵn yn cael eu cadw mewn ffaldau o faint a oedd yn annigonol ar gyfer niferoedd y cŵn a gedwir ynddynt.
 
Cadarnhaodd Llys y Goron yr euogfarn bod y cŵn dan ofal Mr Jones yn cael eu cadw mewn amodau gorlawn yn groes i'r safonau gofod gofynnol sy'n ofynnol gan amodau'r drwydded.  Cafodd euogfarnau eraill eu gwrthdroi. 
 
Ar 9 Chwefror 2021, cafodd Dorian Jones ddirwy o £1000 am y drosedd orlenwi, a gorchmynnwyd iddo dalu costau cyfreithiol gwerth £2500. Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Bydd eich sesiwn yn dod i ben ymhen xx.xx. Ydych chi'n dymuno Parhau neu Allgofnodi
Bydd eich sesiwn yn dod i ben yn xx.xx
Parhau neu Allgofnodi