Trwyddedu Anifeiliaid Cymru

Am y datblygiadau diweddaraf o ran trwyddedu anifeiliaid yng Nghymru

Cwpl o Gymru wedi gwneud swm enfawr o arian o fferm cŵn bach Ci Tarw anghyfreithlon

Clywodd llys y gorfododd Karl a Victoria Shellard eist bridio i gael cŵn bach nifer fawr o weithiau. Gwnaeth y cwpl tua £372,000 o fridio Cŵn Tarw yn anghyfreithlon yng Nghymru.

Roedd Karl a Victoria Shellard yn rhedeg fferm cŵn bach anghyfreithlon lle gorfodwyd eist i gael cŵn bach nifer fawr o weithiau fel y gellid eu gwerthu er elw.

Clywodd gwrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau 6 Rhagfyr fod y cwpl wedi cyflawni troseddau lles anifeiliaid ac wedi methu gwneud cais am drwydded ar gyfer y busnes.

Roedd y cwpl yn rhedeg busnes bridio cwn PosherBull so’u cartref yn Nhresimwn, Bro Morgannwg, a gwnaethant tua £372,000 o werhu’r cŵn bach, dywedodd Wales Online.

Mewn gwrandawiad llys, gorchmynnodd y Barnwr David Wynn Morgan i’r cwpl dalu £400,000.

Dywedodd Mr Morgan: “Roeddech yn rhedeg fferm cŵn bach ac yn gwneud hynny i wneud arian, ac fe wnaethoch lawer iawn o arian. Gallech fod wedi rhedeg busnes proffidiol iawn pe byddech wedi cofrestru’n iawn ond rydych yn mynd i dalu’r pris am y ffolineb hwnnw.”

Dywedwyd wrth Karl Shellard, 43, a Victoria Shellard, 40, nifer fawr o weithiau fod angen iddynt wneud cais am drwydded gan Gyngor Bro Morgannwg ond fe wnaethant anwybyddu’r awdurdodau.

Ond pan lansiwyd ymchwiliad i’r busnes, daeth milfeddyg arbenigol i’r casgliad na fyddent wedi cael trwydded pe byddent wedi gwneud cais am un.

Cymerodd Mr a Mrs Shellard gamau i osgoi’r awdurdod lleol rhag eu canfod drwy ddefnyddio “contractau cydberchnogaeth” lle’r oeddent yn talu i eraill fod yn berchnogion swyddogol neu letya’r cŵn.

Ymwelodd swyddogion lles anifeiliaid â’r cwpl ar 8 Ionawr 2018 pan ddywedwyd wrthynt y byddai angen iddynt wneud cais am drwydded bridiwr, ond nid oedd llawn faint y gweithgareddau busnes yn hysbys bryd hynny.

Er iddynt dorri’r rheolau, dywedodd yr erlynydd Tim Evans fod Mr a Mrs Shellard yn hysbysebu PosherBulls yn agored drwy wefan a’r cyfryngau cymdeithasol gan honni bod yn “fridwyr profiadol” ac “arweinwyr mewn Cŵn Tarw o fri ym mhob lliw”.

Gweithredwyd gwarant yng nghartref pedair ystafell wely y cwpl yn Nhresimwn ar 16 Rhagfyr 2019 a dau adeilad arall yn gysylltiedig gyda’r busnes.

Canfuwyd 28 ci yng nghartref y cwpl ac roedd adeilad yn yr ardd yn cynnwys labordy gydag offer yn cynnwys peiriant allgyrchu amlbwrpas, microsgopau, offer ar gyfer storio a chasglu semen, ac ar gyfer tynnu gwaed.

Daeth swyddogion hefyd i ddod o hyd i Ffurflen Gais wedi’i rhan-lenwi ar gyfer Trwydded Bridwyr na chafodd ei hanfon.

Mewn adeilad arall yn Nhresimwn, canfu swyddogion 24 ci ac roedd chwe chi arall mewn adeilad yng Ngogledd Corneli.

Er y gwyddent y dylent fod  â thrwydded, fe wnaeth y Shellards barhau i fridio cŵn a hyd yn oed nifer o newidiadau i lety’r ci yn eu heiddo gan ychwanegu cenelau pwrpasol tu allan i’r tŷ, lle i gŵn redeg a darparu adeilad i letya cŵn gyda chŵn bach.

Dywedodd: “Er y gweithiau amlwg hyn i hwyluso eu busnes bridio cŵn, ni wnaethant gais am drwydded bridio tan fis Ionawr 2020. Roedd hynny ddwy wythnos ar ôl gweithredu gwarant yn y safle a bron ddwy flynedd ar ôl clywed fod angen trwydded.,”

Yn ystod ei gyfweliad dywedodd Karl Shellard nad oedd wedi anfon y cais am drwydded gan eu bod yn ceisio gwerthu eu cartref ac y byddent wedi gorfod newid eu cyfeiriad ar y cais. Cyfaddefodd iddo fod yn bridio cŵn am chwe mlynedd er nad oedd ganddo drwydded.

Dywedodd Victoria Shellard y byddent yn gwerthu cŵn bach am unrhyw beth rhwng £1,500 a £20,000. Cyfaddefodd y ddau i fridio cefn-wrth-gefn, lle’r oedd cŵn yn rhoi genedigaeth i fwy nag un torraid mewn cyfnod 12 mis.

Clywodd y llys fod y cwpl wedi bridio o leiaf 67 torraid rhwng 2014 a 2020, gyda gwybodaeth ar doriadau-C hysbys yn dangos y cafwyd 43 torraid rhwng 2018 a 2019.

Roedd un ci o’r enw Coco wedi cael chwe torraid o fewn cyfnod o bedair blynedd tra bod nifer o rai eraill wedi eu gorfodi i gael dau dorraid mewn cyfnod o lai na 12 mis.

Dywedodd Mr Evans: “Byddai’r bridio cefn-i-gefn yma wedi bod yn drosedd trwyddedu pe byddent wedi bod yn fridwyr trwyddedig. Mae’n rhywbeth na ddylai hyd yn oed bridwyr dilys byth eu gwneud.

“Ond, trwydded bridwyr ai peidio, mae’n drosedd lles anifeiliaid gan ei bod yn cymryd misoedd lawer i gael adferiad o doriad-c ac roedd y Shellards yn ffrwythloni’r cŵn hyn yn artiffisial yn hir cyn iddynt fod yn ddigon iach i ddod yn feichiog a chael toriad-C eto. Roedd hyn yn benderfyniad cadarnhaol i fridio’r anifeiliaid yn y ffordd hon.”

Cynhaliwyd archwiliad gan filfeddyg yn eu cartref ar 10 Chwefror y llynedd ar ôl i’r cwpl wneud cais swyddogol am drwydded fridio, ond ni roddwyd trwydded oherwydd problemau iechyd yn cael eu rheoli’n wael, llety anaddas a diffyg lle ar gyfer cŵn, diffyg dealltwriaeth o’r canllawiau a chyfleusterau ynysu gwael ar gyfer cŵn heb eu brechu.

Daeth adroddiad pellach i’r casgliad fod y Shellards wedi rhedeg busnes oedd “yn cynhyrchu cynifer ag oedd modd o gŵn bach heb roi unrhyw ystyriaeth i iechyd a llesiant y cŵn”.

Wedyn plediodd Karl a Victoria Shellard yn euog i fridio cŵn heb drwydded rhwng 2017 a 2020 a naw achos o fethu sicrhau anghenion anifail gwarchodedig yr oeddent yn gyfrifol amdano. Datgelodd ymchwiliadau dan y Ddeddf Enillion Troseddau fod y cwpl wedi gwneud £372,531 yn anghyfreithlon ond fod ganddynt asedau o £1,041,714 ar gael.

Mewn lliniarad, dywedodd Heath Edwards y cafodd y busnes ei ddechrau gan Karl Shellard a ddechreuodd ymwneud gyda chŵn tarw fel hobi ond fod ei frwdfrydedd wedi ei arwain i fridio’r anifeiliaid. Dywedodd fod Victoria Shellard wedi dechrau cymryd rhan yn ochr ariannol a gweinyddol y busnes.

Dywedodd y bargyfreithiwr fod y busnes wedi cael ei “gydnabod yn genedlaethol a rhyngwladol” am ansawdd y cŵn a fagwyd a ddisgrifiodd fel “iach ac o bedigri digamsynïol”.

Ychwanegodd Mr Edwards y byddai’r cwpl, sydd â thri o blant, yn “talu pris sylweddol” am fethu gwneud cais am drwydded a’u bod wedi eu gadael “mewn limbo” yn disgwyl i’r trafodion llys i ddod i ben.

Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Wynn Morgan: “Mae’r rhai gyda chof hir yn cofio am sgandalau ffermydd cŵn bach gorllewin Cymru a straeon ffiaidd am gŵn yn cael eu magu drwy eist bridio mewn amodau cywilyddus ac aflan. Canlyniad y sgandalau hyn oedd y ddeddfwriaeth a roddwyd ar waith i fonitro a rheoleiddio bridio cŵn.

“Dyna pam fod gofyniad i chi gofrestru eich busnes fel y gallai gael ei reoleiddio’n gywir ond fe wnaethoch chi ddewis, er i chi gael eich hysbysu amdano, i beidio gwneud hynny. Mae’r rhesymau a gyflwynwyd yn hollol annigonol oherwydd mai dyna’r gyfraith ac y byddai’n rhaid i unrhyw un fyddai eisiau gwneud yr hyn wnaethoch chi i gydymffurfio gyda hynny.”

Cafodd Karl a Victoria Shellard ddirwy o £19,000 yr un, cyfanswm o £38,000, a gorchmynnwyd iddynt dalu £372,531. Cawsant hefyd eu gorchymyn hefyd i dalu costau llys o £43,775 gan wneud cyfanswm o £453,307. Mae gan y cwpl dri mis i dalu neu dderbyn 24 mis o garchar os na chaiff y dirwyon eu talu.

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Bydd eich sesiwn yn dod i ben ymhen xx.xx. Ydych chi'n dymuno Parhau neu Allgofnodi
Bydd eich sesiwn yn dod i ben yn xx.xx
Parhau neu Allgofnodi