Trwyddedu Anifeiliaid Cymru

Am y datblygiadau diweddaraf o ran trwyddedu anifeiliaid yng Nghymru

Bridiwr cŵn o Bowys yn derbyn dirwy am weithredu heb ddirwy

Rhwng Chwefror 2020 a Mawrth 2021, roedd Janet Jones – bridiwr cŵn profiadol sydd wedi symud i Bowys o Ddyfnaint – wedi rhedeg ei busnes  yn anghyfreithlon mewn ardal wledig yn Sir Faesyfed.
 
Roedd Jones wedi rhedeg ei busnes yn bridio cŵn yn Nyfnaint, ac roedd ganddi drwydded ond roedd yn gwybod fod angen trwydded arni er mwyn rhedeg y busnes ym Mhowys. Roedd Llys Ynadon Llandrindod wedi clywed ar ddydd Mercher, 8 Rhagfyr,  sut yr oedd wedi cysylltu gyda’r awdurdodau lleol yng Nghanolbarth Cymru er mwyn sicrhau trwydded ond roedd wedi parhau gyda'i busnes er nad oedd yn gyfreithlon iddi wneud hyn.  
 
Dywedwyd wrth y llys fod sawl math gwahanol o fridiau cŵn wedi eu darganfod pan oedd swyddogion lles anifeiliaid wedi ymweld â'i chartref yn  Lower Bettws, Rhydspence, ger Clyro.
 
Roedd cyfanswm o 26 o gŵn wedi eu darganfod - gan gynnwys 11 o gŵn bach o 15 o gŵn mawr - yn amrywio o bullmastiff, dau gi defaid benywaidd, wyth ci benywaidd mewn sied gan gynnwys  dau sbaniel Brenin Siarl, dau bichon frise a phedwar sbaengi, dau gi bichon frise benywaidd arall, un gyda phum ci bach ac un gyda thri chi bach; roedd yna dri chi bach arall hefyd gan gynnwys dau gorgi ac un cavapoo.
 
Roedd Jones wedi cyfaddef un cyhuddiad yn y gwrandawiad o barhau gyda gweithgaredd heb awdurdod trwydded, sydd yn tramgwyddo Deddf Llesiant Anifeiliaid 2006.
 
Dywedodd Robert Brown, a oedd yn erlyn ar ran Cyngor Sir Powys, fod Jones wedi methu cynnig rheswm dilys dros fethu cael trwydded.   
 
“Er iddi dderbyn cyngor ar drwyddedu, roedd wedi parhau i  redeg busnes yn bridio cŵn er mwyn gwerthu cŵn bach, ac roedd tri  grŵp o gŵn bach a oedd wedi eu geni o fewn 12 mis,” dywedodd  Mr Brown.
 
“Er iddi wneud ymholiadau ynglŷn â chael trwydded, roedd wedi rhedeg ei busnes heb sicrhau’r drwydded. Roedd hefyd wedi gosod hysbysebion ar wefannau bridio cŵn ond dywedodd nad oedd syniad ganddi sut iddynt ymddangos gan ddweud bod rhywun wedi  ei hacio.”
 
Dywedodd Aled Owen, a oedd yn cynrychioli Jones, nad oedd ei gleient yn meddu ar unrhyw euogfarn cyn hyn ac roedd wedi symud i Bowys yn dilyn cythrwfl teuluol yn Nyfnaint.
 
“Nid oedd erioed wedi bod troseddu cyn hyn,” dywedodd Mr Owen.
 
“Pan ddaeth hi fan hyn, roedd rhai o’r cŵn eisoes yn disgwyl cŵn bach, rhai wedi cael cŵn bach yn barod ac eraill heb gŵn bach."
 
Dywedodd Mr Owen nad oedd unrhyw elw sylweddol wedi ei wneud o fridio’r cŵn, ac mewn gwirionedd, dim ond rhai o’r cŵn bach a oedd wedi eu gwerthu, am tua £300 yr un.
 
“Ceisiodd gysylltu gyda’r swyddogion a’r awdurdodau lleol, ond efallai nad oedd wedi gwneud hyn cyn gynted ag y dylai fod wedi ei wneud,” dywedodd hi.
 
Dywedodd Mr Owen nad oedd Jones yn bwriadu aros ym Mhowys. “Mae wedi bod yn gyfnod anodd iddi,” ychwanegodd.
 
Roedd yr Ynadon wedi rhoi dirwy o £200 i Jones gan nodi fod rhaid iddi dalu £1,800 mewn costau, ynghyd â gordal o £34. Roedd wedi cytuno i ad-dalu hyn drwy dalu £25 yr wythnos.

 
Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Bydd eich sesiwn yn dod i ben ymhen xx.xx. Ydych chi'n dymuno Parhau neu Allgofnodi
Bydd eich sesiwn yn dod i ben yn xx.xx
Parhau neu Allgofnodi