Trwyddedu Anifeiliaid Cymru

Am y datblygiadau diweddaraf o ran trwyddedu anifeiliaid yng Nghymru

Datganiad Ysgrifenedig: Ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad ar ‘Trwyddedu sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid, gan gynnwys rasio milgwn’ a'n camau nesaf

Heddiw, rwy'n falch o amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i'n hymgynghoriad ar drwyddedu sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid. Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol yn ein hymrwymiad i wella safonau lles anifeiliaid ledled Cymru.

Rydym yn symud ymlaen gyda gwaharddiad ar rasio milgwn yng Nghymru. Fel y cyhoeddwyd yn gynharach eleni, rydym yn sefydlu Grŵp Gweithredu i lywio'r trawsnewidiad hwn, gan sicrhau lles cŵn rasio a chefnogi cymunedau yr effeithir arnynt. Bydd deddfwriaeth i gyflawni'r ymrwymiad hwn yn cael ei chyflwyno yn yr hydref.

Byddwn yn defnyddio dull gweithredu graddol o ran cyflwyno model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid, gan weithio'n agos gyda rhanddeiliaid, asiantaethau gweithredol, diwydiant a'r trydydd sector. Bydd ein ffocws ar feysydd lle gall rheoleiddio ddarparu'r budd mwyaf, wedi'i lywio gan y dystiolaeth a'r safbwyntiau a gyflwynwyd yn ystod yr ymgynghoriad.

Byddwn yn dechrau drwy ddatblygu cynigion ar gyfer rheoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid, gan gynnwys canolfannau achub, llochesi, canolfannau adsefydlu ac ailgartrefu yn dilyn adborth clir o'r ymgynghoriad. Rydym yn cydnabod yr angen am safonau cyson, cymesur a gorfodadwy, i ddiogelu iechyd a lles anifeiliaid, ac i gefnogi'r gwaith cadarnhaol a wneir i atal camdriniaeth a chamweithredu.  

Ym maes gweithgareddau anifeiliaid, byddwn yn ystyried gwasanaethau twtio anifeiliaid anwes fel ail gam y model cenedlaethol. Mae'r gweithgarwch medrus ac arbenigol hwn yn eang ond heb ei reoleiddio ar hyn o bryd, gydag amcangyfrifir bod dros 500 o fentrau twtio anifeiliaid anwes yn gweithredu yng Nghymru.

Rwy'n cydnabod y dadleuon dros reoleiddio gweithgareddau eraill o dan fodel cenedlaethol. Byddwn yn parhau i fonitro a chasglu tystiolaeth pan fo angen, er mwyn eu cynnwys o bosibl yn y camau yn y dyfodol ar gyfer model cenedlaethol.

Byddwn yn cadw golwg ar arddangosfeydd anifeiliaid. Er bod safbwyntiau yn gymysg, rydym yn parhau i fod yn agored i ailwerthuso yn y dyfodol fel rhan o'n dull gweithredu graddol ac nid ydym yn anwybyddu galwadau am ddiwygio rheoleiddiol neu waharddiad.

Yn olaf, rydym yn cydnabod bod gorfodi effeithiol yn hanfodol. Dyna pam rydym wedi ymestyn cyllid ar gyfer ein prosiect gorfodi awdurdodau lleol, Trwyddedu Anifeiliaid Cymru, gan sicrhau bod eu gwaith arobryn yn parhau.

Gyda'i gilydd, mae'r camau hyn yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau gwelliannau parhaus i les anifeiliaid yng Nghymru. Rwy'n hyderus y bydd ein model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio, ynghyd â gorfodi effeithiol, yn sicrhau newid gwirioneddol a chadarnhaol i filoedd o anifeiliaid.

 

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf 24 Mehefin 2025.

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Bydd eich sesiwn yn dod i ben ymhen xx.xx. Ydych chi'n dymuno Parhau neu Allgofnodi
Bydd eich sesiwn yn dod i ben yn xx.xx
Parhau neu Allgofnodi