Trwyddedu Anifeiliaid Cymru

Am y datblygiadau diweddaraf o ran trwyddedu anifeiliaid yng Nghymru

Cyngor Busnes ar gyfer: Bridwyr Cŵn

Darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr

 

Deddf Cwmnïau 2006

Mae Deddf Cwmnïau 2006 yn nodi pa wybodaeth am eich busnes ddylid ei datgelu i ddefnyddwyr a sut i wneud hynny.

Cwmnïau cyfyngedig

Os yw'ch cwmni chi'n un cyfyngedig, mae'n rhaid cynnwys y wybodaeth ganlynol ar bob anfoneb, contract, papur pennawd a gwefan:

• Enw'r Cwmni Cyfyngedig;

• Cyfeiriad Swyddfa Gofrestredig;

• Rhif Cwmni;

• Lleoliad Cofrestru'r Cwmni, h.y. Lloegr a Chymru;

• Rhif Ffôn Cyswllt;

• Cyfeiriad E-bost;

• Rhif TAW cofrestredig (os yw'n berthnasol);

• Prisiau clir (ar y wefan).

Unig fasnachwyr a phartneriaethau

Mewn achosion lle mae unig fasnachwr neu bartneriaeth yn cynnal busnes o dan enw nad yw'n enw'r perchennog neu bartneriaid, mae'n rhaid i'w manylion gael eu datgelu'n llawn i ddefnyddwyr a chyflenwyr er mwyn ei gwneud yn glir â phwy maent yn gwneud busnes.

Dyma'r wybodaeth sydd angen ei datgelu:

• Enw llawn y perchennog neu'r holl bartneriaid, a

• Cyfeiriad lle gellir cysylltu â'r busnes ac y gellir anfon dogfennau cyfreithiol ffurfiol ato.

Mae'n rhaid i'r wybodaeth sy'n ofynnol:

• Cael ei harddangos mewn man amlwg yn yr holl safleoedd busnes y mae gan gwsmeriaid a chyflenwyr fynediad iddynt;

• Cael ei rhoi ar unwaith yn ysgrifenedig i unrhyw gwsmer neu gyflenwr sy'n gofyn am fanylion busnes;

• Cael ei chynnwys yn glir ar yr holl ddogfennau busnes: llythyron; gorchmynion ysgrifenedig ar gyfer nwyddau neu wasanaethau; anfonebau, derbynebau a chontractau; hawliadau ysgrifenedig am daliadau; gwefannau busnes (gofyniad o dan Reoliadau Masnach Electronig (Cyfarwyddeb y CE) 2002).

 

Gwerthu cŵn oddi ar eich safle busnes

 

Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013

Contractau oddi ar y safle:

Os ydych yn cytuno ar gontract yng nghartref defnyddiwr neu oddi ar eich safle busnes, mae'n rhaid ichi ddarparu hysbysiad canslo. Mae'n drosedd peidio â darparu hysbysiad canslo yn y sefyllfa hon.

14 diwrnod yw cyfnod yr hysbysiad canslo a gellir ei gyflwyno naill ai drwy e-bost neu gopi papur. Mae'r 14 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y daw'r ci i feddiant corfforol y defnyddiwr.

Mae'n bwysig nodi os nad ydych yn rhoi'r hysbysiad canslo wrth gytuno ar gontract yng nghartref defnyddiwr, yn ogystal â bod yn drosedd, gallai'r contract fod yn anorfodadwy; gan olygu efallai na fyddai'n rhaid i'r defnyddiwr dalu.

Contractau o bell:

Yn ogystal, mae'n rhaid ichi ddarparu hysbysiad canslo 14 diwrnod os ydych yn trafod ac yn cytuno ar gontract (gwerthiant) gyda defnyddiwr drwy ddull "wedi'i drefnu" o gyfathrebu o bell e.e. dros y ffôn, post neu ar-lein. Gallai hwn fod yn berthnasol wrth gymryd blaendal dros y ffôn neu ar e-bost am gi bach sydd wedi'i hysbysebu ar eich gwefan, hyd yn oed os yw'r balans wedi'i dalu wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r contract gynnwys cynllun wedi'i drefnu ar gyfer gwerthu cŵn. Nid yw gwerthu ci bach "unwaith yn unig" dros y ffôn yn gynllun wedi'i drefnu ar gyfer gwerthu cŵn.

Rhybudd canslo:

Lle mae angen hysbysiad canslo, mae'n rhaid ei ddarparu mewn fformat penodedig ac mae'n bosibl yr hoffech ddarparu ffurflen ganslo enghreifftiol (gweler tudalen 5). Fodd bynnag, nid oes rheidrwydd ar y cwsmer i ddefnyddio'r ffurflen ganslo rydych yn ei darparu ond mae'n rhaid i'r cwsmer ganslo yn ysgrifenedig un ai drwy'r post, dosbarthu â llaw neu drwy e-bostio ei fwriad i ganslo. 

 

 

Eich rhwymedigaeth i'r defnyddiwr (sifil/contractiol)

 

Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015

Mae hawl gan ddefnyddwyr, yn ôl y gyfraith, i ddisgwyl bod cŵn y maent yn prynu wrthych yn cydymffurfio â'r contract. Mae hyn yn golygu y dylai'r cŵn rydych yn eu gwerthu fod:

• o ansawdd boddhaol, h.y. yn gyffredinol iach;

• yn addas at y diben a fwriedir (ac unrhyw ddiben y dywedasoch wrth y cwsmer eu bod yn addas ar ei gyfer e.e. bridio, arddangos);

• fel y disgrifiwyd, e.e. Cocker Spaniel, wedi'u cofrestru â'r Kennel Club, "yn gyfarwydd â phlant".

A oes hawl gan ddefnyddwyr i gael ad-daliad, cyfnewid neu atgyweirio'r eitem?

Oes, os nad yw'r cŵn yn cydymffurfio â'r contract, mae hawl gyfreithiol gan ddefnyddwyr i un o'r canlynol:

• ad-daliad llawn neu rannol;

• cyfnewid neu atgyweirio'r eitem e.e. ci bach newydd, ffioedd milfeddygol ac ati;

• gostyngiad o ran y pris; • digolledu am unrhyw golledion a achoswyd e.e. ffioedd milfeddygol.

Mae'r ymateb sy'n ofynnol ichi ei roi yn dibynnu ar amgylchiadau pob gwerthiant e.e. faint o amser y mae'r defnyddiwr wedi bod yn berchen ar y ci cyn i'r broblem ddod i'r amlwg.

Fodd bynnag, nid oes hawl gyfreithiol gan ddefnyddwyr i ofyn am ddatrysiad i broblemau yr oeddent yn gwybod amdanynt cyn iddynt brynu'r ci, e.e. nam iechyd genetig y tynnwyd sylw'r defnyddiwr ato cyn prynu'r ci. 

Amser ar gyfer gweithredu

Mae'r gyfraith yn nodi terfyn amser i ddefnyddwyr gymryd camau cyfreithiol. Yng Nghymru a Lloegr, y terfyn amser hwn fel arfer yw chwe blynedd o adeg gwerthu neu ddarparu eitem.

Hawl tymor byr i wrthwynebu

Ar ôl darparu'r ci, os nad yw fel y'i disgrifiwyd, neu os yw heb fod o safon foddhaol neu heb fod yn addas i'r diben, mae cyfnod byr lle mae hawl gan y defnyddiwr ei wrthod. Mae'r hawl tymor byr hwn i wrthod cŵn yn para 30 diwrnod, sy'n dechrau pan fydd y ci yn cael ei ddarparu/yn dod i feddiant y defnyddiwr.

Pan fydd defnyddiwr yn gwrthod ci, gall ef/hi hawlio ad-daliad ac mae'n rhaid iddo/iddi ddychwelyd y ci. Mae'n rhaid rhoi ad-daliad heb oedi gormodol ac yn unrhyw achos, o fewn 14 diwrnod i'r adeg y mae'r gwerthwr yn cytuno bod hawl gan y defnyddiwr gael addaliad.

Atgyweirio neu gyfnewid yr eitem

Mewn achosion lle mae torri amodau'r contract wedi digwydd ond bod y defnyddiwr wedi colli neu ddewis peidio â defnyddio ei hawl i wrthod y ci, bydd ganddo/ganddi hawl, yn y lle cyntaf, i hawlio iawndal (e.e. hawl i gostau'r milfeddyg) neu gyfnewid yr eitem.

Mewn achosion lle ceir iawndal neu gyfnewid yr eitem, mae'n rhaid i'r gwerthwr wneud hyn heb hawlio costau gan y defnyddiwr a hynny o fewn cyfnod amser rhesymol a heb achosi anghyfleustra sylweddol. Os nad oes modd cael iawndal neu gyfnewid yr eitem neu os nad yw'r opsiynau hyn yn llwyddiannus neu heb ddigwydd mewn cyfnod amser rhesymol a heb anghyfleuster sylweddol i'r defnyddiwr, gall ef/hi hawlio gostyngiad o ran pris neu wrthod y ci.

Mae'n rhaid i unrhyw ostyngiad o ran pris fod yn swm priodol, a fydd yn dibynnu ar holl amgylchiadau'r hawliad. Gall fod yn unrhyw swm hyd at y pris cyfan.

Os yw'r defnyddiwr yn gwrthod y ci, mae hawl ganddynt i gael ad-daliad. Gellir lleihau'r ad-daliad hwn er mwyn ystyried unrhyw ddefnydd y mae'r defnyddiwr wedi'i gael o'r ci.

Sylwer: pan fydd ci yn cael ei wrthod o fewn chwe mis o'l ddarparu, mewn rhan fwyaf o achosion, mae hawl gan y defnyddiwr gael ad-daliad llawn.

Y baich profi

Os bydd y defnyddiwr yn dewis iawndal, cyfnewid yr eitem, gostyngiad o ran pris neu'r hawl terfynol i wrthod ac os tynnir sylw at y nam o fewn chwe mis o ddarparu'r eitem, rhagdybir bod y nam yno ar adeg darparu'r eitem oni bai y gall y masnachwr brofi fel arall.

Os oes mwy na chwe mis wedi mynd heibio, mae'n rhaid i'r defnyddiwr brofi bod y nam yno ar adeg darparu'r eitem. Yn ogystal, mae'n rhaid i'r defnyddiwr brofi bod y nam yno ar adeg darparu'r eitem os yw'n defnyddio'r hawl tymor byr i wrthod y nwyddau. 

Telerau contract annheg

Enghreifftiau o delerau contract annheg posibl:

• Telerau ac eithrio atebolrwydd am achosion o dorri contract, e.e. “Ni roddir gwarant ynghylch oedran/iechyd unrhyw gi bach”.

• Taliadau gormodol a sancsiynau anghymesur, e.e. “Os bydd y prynwr yn canslo'r contract, neu'n methu â chymryd y ci bach, bydd y blaendal llawn o 50% yn cael ei fforffedu i'r gwerthwr”.

 

Eich rhwymedigaethau i'r defnyddiwr (troseddol)

 

Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008

Mae'r Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 (a adwaenir fel CPR) yn rheoli arferion annheg a ddefnyddir gan fasnachwyr wrth ddelio â defnyddwyr, a chreu troseddau ar gyfer masnachwyr sy'n eu torri nhw. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn disodli Deddf Disgrifiadau Masnach 1968.

Beth sy'n cael ei wahardd?

Mewn gwirionedd, mae'r Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg yn gwahardd arferion masnachu sy'n annheg i'r defnyddwyr. Mae pedwar math gwahanol o arferion i'w hystyried:

• arferion a waherddir ym mhob sefyllfa;

• camau gweithredu a hepgoriadau camarweiniol;

• arferion ymosodol;

• dyletswydd gyffredinol i beidio â masnachu'n annheg.

Arferion a waherddir ym mhob sefyllfa

Mae’r rhain yn cynnwys:

• Awdurdodiadau/ardystiadau anwir: hawliadau aelodaeth ffug o gymdeithasau masnach/llofnodwr côd ymddygiad, e.e. Achrediad y Kennel Club. Safonau Masnach Cymru.

• Effaith/cyd-destun camarweiniol: methu â'i gwneud yn glir bod person mewn gwirionedd yn fridiwr/fasnachwr neu greu argraff ei fod yn ddefnyddiwr. e.e. methu â nodi statws masnach wrth werthu ci bach; creu argraff y gellir gwerthu ci'n gyfreithiol ond mewn gwirionedd na ellir gwerthu ci'n gyfreithiol e.e. ci peryglus.

Hepgoriadau neu gamau gweithredu camarweiniol

Mae'r Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg yn gwahardd 'camau gweithredu camarweiniol' a 'hepgoriadau camarweiniol' sy'n achosi, neu sy'n debygol o achosi, i'r defnyddiwr arferol wneud penderfyniad trafodiadol gwahanol; hynny yw, unrhyw benderfyniad a wneir gan y defnyddwyr ynghylch prynu y ci neu p'un ai i arfer hawl gytundebol mewn perthynas â'r ci, gan gynnwys penderfyniadau i beidio â gweithredu. Mae hyn yn berthnasol i'r cyfnod o siopa am eitem a'r cyfnod ar ôl prynu'r eitem ac mae'n parhau gydol oes y ci.

Camau gweithredu camarweiniol

Mae Rheoliad 5 o'r Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg yn gwahardd rhoi gwybodaeth anwir i ddefnyddwyr neu eu twyllo nhw. Mae camau gweithredu camarweiniol yn digwydd pan fydd ymarfer yn camarwain drwy'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys neu wedi'i chyflwyno mewn ffordd dwyllodrus gan achosi, neu fod yn debygol o achosi, i'r defnyddiwr arferol wneud penderfyniad trafodiadol gwahanol.

Mae nifer o enghreifftiau o gamau gweithredu camarweiniol:

• gwybodaeth gamarweiniol, fel arfer, hysbysebu ci bach fel un sydd wedi'i gofrestru â'r Kennel Club pan nad yw hynny'n wir;

• camgynrychioli trwy luniau sut y mae ci bach wedi cael ei fagu, rhoi'r argraff bod ci bach wedi cael ei fagu mewn amgylchedd domestig ond mewn gwirionedd, wedi cael ei fagu mewn cynelau;

• methu â chadw ymrwymiadau a wnaed yn y côd ymddygiad, e.e. Kennel Club;

• darparu gwybodaeth anwir ynghylch natur, priodoleddau a hawliau'r masnachwr, e.e. cymwysterau.

Hepgoriadau camarweiniol

Mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg yn gwahardd rhoi gwybodaeth annigonol am eitem/ci. Mae’n drosedd o’r Rheoliadau yma I beidio â rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar ddefnyddwyr i wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn ag eitem petai hwn yn achosi, neu’n debygol o achosi i’r defnyddiwr arferol i wneud penderfyniad trafodiadol gwahanol e.e. mae’n rhaid i fridiwr cŵn ddarparu gwybodaeth ynghylch unrhyw lawdriniaeth cywiriadol/triniaeth ar gyfer hernia ac ati.

Arferion ymosodol

Mae Rheoliad 7 y Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg yn gwahardd ymarferion masnachol ymosodol sy'n cymryd mantais ar ddefnyddwyr neu'n codi ofn arnynt, gan gyfyngu ar eu gallu i wneud dewisiadau gwybodus neu ddewisiadau rhydd. Er mwyn i ymarfer ymosodol gael ei ystyried yn annheg, mae'n rhaid iddo achosi, neu fod yn debygol o achosi, i'r defnyddiwr arferol wneud penderfyniad trafodiadol gwahanol. Mae arfer masnachol yn ymosodol os yw'n:

• amharu'n sylweddol, neu'n debygol o amharu'n sylweddol ar ymddygiad neu ryddid defnyddiwr i wneud dewis mewn perthynas â'r eitem drwy ddefnyddio dulliau aflonyddu, gorfodaeth neu ddylanwadu'n ddiangen; a

• thrwy hynny achosi i'r defnyddiwr wneud penderfyniad trafodiadol gwahanol.

Nodyn: Mae 'gorfodaeth' yn cynnwys defnyddio grym corfforol ac mae 'dylanwadu'n ddiangen' yn golygu manteisio safle o bŵer mewn perthynas â'r defnyddiwr gan roi pwysau, hyd yn oed heb ddefnyddio grym corfforol (neu fygwth ei ddefnyddio), mewn ffordd sy'n cyfyngu'n sylweddol ar allu'r defnyddiwr i wneud penderfyniad gwybodus. e.e. mynnu bod defnyddiwr yn prynu bwyd ci/yswiriant ci gyda'r ci bach neu roi gwybod i'r defnyddiwr bod angen iddo/iddi wneud penderfyniad yn y fan a'r lle gan fod cwsmer arall yn dod i weld y ci bach. 

Dyletswydd gyffredinol i beidio â masnachu'n annheg

Mae Rheoliad 3 sef "Gwahardd ymarferion masnachol annheg", mewn gwirionedd yn golygu methu â gweithredu yn unol â disgwyliadau rhesymol ymarferion masnachu derbyniol.

Mae'r Rheoliad yn gwahardd ymarferion sy'n:

• mynd yn groes i ofynion diwydrwydd proffesiynol (a ddiffinnir fel safon gofal a sgil arbennig y gellid disgwyl yn rhesymol i fasnachwr ei defnyddio tuag at ddefnyddwyr, sy'n gymesur ag ymarfer gonest y farchnad ym maes gweithredu'r masnachwr neu'r egwyddor gyffredinol o ewyllys da ym maes gweithredu'r masnachwr).

• gwyrdroi'n sylweddol ymddygiad economaidd defnyddiwr cyffredinol (neu'n debygol o wneud hynny) mewn perthynas â'r eitem hynny yw, amharu'n sylweddol ar allu defnyddiwr cyffredinol i wneud penderfyniad gwybodus, gan achosi iddynt wneud penderfyniad trafodiadol na fyddent wedi'i wneud fel arall.

Er enghraifft, gwerthu ci defaid/Springer Spaniel i ddefnyddiwr gan wybod ei fod/bod yn byw mewn fflat bach. 

 

Camarwain Masnachwyr Eraill

 

Rheoliadau Diogelu Busnesau rhag Marchnata Annheg 2008

Gall camarwain masnachwr arall drwy hysbyseb ynghylch nodweddion (natur) ci fod yn drosedd. Caiff hysbyseb ei ddiffinio yn y ddeddfwriaeth fel unrhyw fath o gynrychiolaeth a wneir mewn cysylltiad â masnach neu fusnes er mwyn hyrwyddo eitem. e.e. ffug ddisgrifio ci bach ar anfoneb i siop anifeiliaid anwes.

 

Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw’r erthygl hon yn ddehongliad awdurdodol o’r gyfraith ac fe’i bwriedir fel canllaw byr yn unig. Gall unrhyw ddeddfwriaeth y cyfeirir ati fod wedi cael ei diwygio o’r deddfiad gwreiddiol.

Erthygl flaenorol
Bydd eich sesiwn yn dod i ben ymhen xx.xx. Ydych chi'n dymuno Parhau neu Allgofnodi
Bydd eich sesiwn yn dod i ben yn xx.xx
Parhau neu Allgofnodi