Cyngor Busnes ar gyfer: Bridwyr Cŵn
Darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr
Deddf Cwmnïau 2006
Mae Deddf Cwmnïau 2006 yn nodi pa wybodaeth am eich busnes ddylid ei datgelu i
ddefnyddwyr a sut i wneud hynny.
Cwmnïau cyfyngedig
Os yw'ch cwmni chi'n un cyfyngedig, mae'n rhaid cynnwys y wybodaeth ganlynol ar bob
anfoneb, contract, papur pennawd a gwefan:
• Enw'r Cwmni Cyfyngedig;
• Cyfeiriad Swyddfa Gofrestredig;
• Rhif Cwmni;
• Lleoliad Cofrestru'r Cwmni, h.y. Lloegr a Chymru;
• Rhif Ffôn Cyswllt;
• Cyfeiriad E-bost;
• Rhif TAW cofrestredig (os yw'n berthnasol);
• Prisiau clir (ar y wefan).
Unig fasnachwyr a phartneriaethau
Mewn achosion lle mae unig fasnachwr neu bartneriaeth yn cynnal busnes o dan enw nad
yw'n enw'r perchennog neu bartneriaid, mae'n rhaid i'w manylion gael eu datgelu'n llawn
i ddefnyddwyr a chyflenwyr er mwyn ei gwneud yn glir â phwy maent yn gwneud busnes.
Dyma'r wybodaeth sydd angen ei datgelu:
• Enw llawn y perchennog neu'r holl bartneriaid, a
• Cyfeiriad lle gellir cysylltu â'r busnes ac y gellir anfon dogfennau cyfreithiol ffurfiol
ato.
Mae'n rhaid i'r wybodaeth sy'n ofynnol:
• Cael ei harddangos mewn man amlwg yn yr holl safleoedd busnes y mae gan gwsmeriaid a chyflenwyr fynediad iddynt;
• Cael ei rhoi ar unwaith yn ysgrifenedig i unrhyw gwsmer neu gyflenwr sy'n gofyn am
fanylion busnes;
• Cael ei chynnwys yn glir ar yr holl ddogfennau busnes: llythyron; gorchmynion ysgrifenedig ar gyfer nwyddau neu wasanaethau; anfonebau, derbynebau a chontractau; hawliadau ysgrifenedig am daliadau; gwefannau busnes (gofyniad o dan Reoliadau Masnach Electronig
(Cyfarwyddeb y CE) 2002).
Gwerthu cŵn oddi ar eich safle busnes
Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth,
Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013
Contractau oddi ar y safle:
Os ydych yn cytuno ar gontract yng nghartref defnyddiwr neu oddi ar eich safle busnes,
mae'n rhaid ichi ddarparu hysbysiad canslo. Mae'n drosedd peidio â darparu hysbysiad
canslo yn y sefyllfa hon.
14 diwrnod yw cyfnod yr hysbysiad canslo a gellir ei gyflwyno naill ai drwy e-bost neu gopi
papur. Mae'r 14 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y daw'r ci i feddiant
corfforol y defnyddiwr.
Mae'n bwysig nodi os nad ydych yn rhoi'r hysbysiad canslo wrth gytuno ar gontract yng
nghartref defnyddiwr, yn ogystal â bod yn drosedd, gallai'r contract fod yn anorfodadwy;
gan olygu efallai na fyddai'n rhaid i'r defnyddiwr dalu.
Contractau o bell:
Yn ogystal, mae'n rhaid ichi ddarparu hysbysiad canslo 14 diwrnod os ydych yn trafod ac
yn cytuno ar gontract (gwerthiant) gyda defnyddiwr drwy ddull "wedi'i drefnu" o
gyfathrebu o bell e.e. dros y ffôn, post neu ar-lein. Gallai hwn fod yn berthnasol wrth
gymryd blaendal dros y ffôn neu ar e-bost am gi bach sydd wedi'i hysbysebu ar eich
gwefan, hyd yn oed os yw'r balans wedi'i dalu wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, mae'n rhaid
i'r contract gynnwys cynllun wedi'i drefnu ar gyfer gwerthu cŵn. Nid yw gwerthu ci bach
"unwaith yn unig" dros y ffôn yn gynllun wedi'i drefnu ar gyfer gwerthu cŵn.
Rhybudd canslo:
Lle mae angen hysbysiad canslo, mae'n rhaid ei ddarparu mewn fformat penodedig ac
mae'n bosibl yr hoffech ddarparu ffurflen ganslo enghreifftiol (gweler tudalen 5). Fodd
bynnag, nid oes rheidrwydd ar y cwsmer i ddefnyddio'r ffurflen ganslo rydych yn ei
darparu ond mae'n rhaid i'r cwsmer ganslo yn ysgrifenedig un ai drwy'r post, dosbarthu â
llaw neu drwy e-bostio ei fwriad i ganslo.
Eich rhwymedigaeth i'r defnyddiwr
(sifil/contractiol)
Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015
Mae hawl gan ddefnyddwyr, yn ôl y gyfraith, i ddisgwyl bod cŵn y maent yn prynu
wrthych yn cydymffurfio â'r contract. Mae hyn yn golygu y dylai'r cŵn rydych yn eu
gwerthu fod:
• o ansawdd boddhaol, h.y. yn gyffredinol iach;
• yn addas at y diben a fwriedir (ac unrhyw ddiben y dywedasoch wrth y cwsmer eu
bod yn addas ar ei gyfer e.e. bridio, arddangos);
• fel y disgrifiwyd, e.e. Cocker Spaniel, wedi'u cofrestru â'r Kennel Club, "yn gyfarwydd â
phlant".
A oes hawl gan ddefnyddwyr i gael ad-daliad, cyfnewid neu
atgyweirio'r eitem?
Oes, os nad yw'r cŵn yn cydymffurfio â'r contract, mae hawl gyfreithiol gan ddefnyddwyr i
un o'r canlynol:
• ad-daliad llawn neu rannol;
• cyfnewid neu atgyweirio'r eitem e.e. ci bach newydd, ffioedd milfeddygol ac ati;
• gostyngiad o ran y pris;
• digolledu am unrhyw golledion a achoswyd e.e. ffioedd milfeddygol.
Mae'r ymateb sy'n ofynnol ichi ei roi yn dibynnu ar amgylchiadau pob gwerthiant e.e. faint
o amser y mae'r defnyddiwr wedi bod yn berchen ar y ci cyn i'r broblem ddod i'r amlwg.
Fodd bynnag, nid oes hawl gyfreithiol gan ddefnyddwyr i ofyn am ddatrysiad i broblemau
yr oeddent yn gwybod amdanynt cyn iddynt brynu'r ci, e.e. nam iechyd genetig y tynnwyd
sylw'r defnyddiwr ato cyn prynu'r ci.
Amser ar gyfer gweithredu
Mae'r gyfraith yn nodi terfyn amser i ddefnyddwyr gymryd camau cyfreithiol. Yng Nghymru
a Lloegr, y terfyn amser hwn fel arfer yw chwe blynedd o adeg gwerthu neu ddarparu
eitem.
Hawl tymor byr i wrthwynebu
Ar ôl darparu'r ci, os nad yw fel y'i disgrifiwyd, neu os yw heb fod o safon foddhaol neu heb
fod yn addas i'r diben, mae cyfnod byr lle mae hawl gan y defnyddiwr ei wrthod. Mae'r
hawl tymor byr hwn i wrthod cŵn yn para 30 diwrnod, sy'n dechrau pan fydd y ci yn cael ei
ddarparu/yn dod i feddiant y defnyddiwr.
Pan fydd defnyddiwr yn gwrthod ci, gall ef/hi hawlio ad-daliad ac mae'n rhaid iddo/iddi
ddychwelyd y ci. Mae'n rhaid rhoi ad-daliad heb oedi gormodol ac yn unrhyw achos, o
fewn 14 diwrnod i'r adeg y mae'r gwerthwr yn cytuno bod hawl gan y defnyddiwr gael addaliad.
Atgyweirio neu gyfnewid yr eitem
Mewn achosion lle mae torri amodau'r contract wedi digwydd ond bod y defnyddiwr wedi
colli neu ddewis peidio â defnyddio ei hawl i wrthod y ci, bydd ganddo/ganddi hawl, yn y
lle cyntaf, i hawlio iawndal (e.e. hawl i gostau'r milfeddyg) neu gyfnewid yr eitem.
Mewn achosion lle ceir iawndal neu gyfnewid yr eitem, mae'n rhaid i'r gwerthwr wneud
hyn heb hawlio costau gan y defnyddiwr a hynny o fewn cyfnod amser rhesymol a heb
achosi anghyfleustra sylweddol. Os nad oes modd cael iawndal neu gyfnewid yr eitem neu
os nad yw'r opsiynau hyn yn llwyddiannus neu heb ddigwydd mewn cyfnod amser
rhesymol a heb anghyfleuster sylweddol i'r defnyddiwr, gall ef/hi hawlio gostyngiad o ran
pris neu wrthod y ci.
Mae'n rhaid i unrhyw ostyngiad o ran pris fod yn swm priodol, a fydd yn dibynnu ar holl
amgylchiadau'r hawliad. Gall fod yn unrhyw swm hyd at y pris cyfan.
Os yw'r defnyddiwr yn gwrthod y ci, mae hawl ganddynt i gael ad-daliad. Gellir lleihau'r ad-daliad hwn er mwyn ystyried unrhyw ddefnydd y mae'r defnyddiwr wedi'i gael o'r ci.
Sylwer: pan fydd ci yn cael ei wrthod o fewn chwe mis o'l ddarparu, mewn rhan fwyaf o
achosion, mae hawl gan y defnyddiwr gael ad-daliad llawn.
Y baich profi
Os bydd y defnyddiwr yn dewis iawndal, cyfnewid yr eitem, gostyngiad o ran pris neu'r
hawl terfynol i wrthod ac os tynnir sylw at y nam o fewn chwe mis o ddarparu'r eitem,
rhagdybir bod y nam yno ar adeg darparu'r eitem oni bai y gall y masnachwr brofi fel arall.
Os oes mwy na chwe mis wedi mynd heibio, mae'n rhaid i'r defnyddiwr brofi bod y nam
yno ar adeg darparu'r eitem. Yn ogystal, mae'n rhaid i'r defnyddiwr brofi bod y nam yno ar
adeg darparu'r eitem os yw'n defnyddio'r hawl tymor byr i wrthod y nwyddau.
Telerau contract annheg
Enghreifftiau o delerau contract annheg posibl:
• Telerau ac eithrio atebolrwydd am achosion o dorri contract, e.e. “Ni roddir gwarant
ynghylch oedran/iechyd unrhyw gi bach”.
• Taliadau gormodol a sancsiynau anghymesur, e.e. “Os bydd y prynwr yn canslo'r
contract, neu'n methu â chymryd y ci bach, bydd y blaendal llawn o 50% yn cael ei
fforffedu i'r gwerthwr”.
Eich rhwymedigaethau i'r defnyddiwr
(troseddol)
Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu
Annheg 2008
Mae'r Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 (a adwaenir fel CPR)
yn rheoli arferion annheg a ddefnyddir gan fasnachwyr wrth ddelio â defnyddwyr, a chreu
troseddau ar gyfer masnachwyr sy'n eu torri nhw. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn disodli
Deddf Disgrifiadau Masnach 1968.
Beth sy'n cael ei wahardd?
Mewn gwirionedd, mae'r Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg yn
gwahardd arferion masnachu sy'n annheg i'r defnyddwyr. Mae pedwar math gwahanol o
arferion i'w hystyried:
• arferion a waherddir ym mhob sefyllfa;
• camau gweithredu a hepgoriadau camarweiniol;
• arferion ymosodol;
• dyletswydd gyffredinol i beidio â masnachu'n annheg.
Arferion a waherddir ym mhob sefyllfa
Mae’r rhain yn cynnwys:
• Awdurdodiadau/ardystiadau anwir: hawliadau aelodaeth ffug o gymdeithasau masnach/llofnodwr côd ymddygiad,
e.e. Achrediad y Kennel Club.
Safonau Masnach Cymru.
• Effaith/cyd-destun camarweiniol: methu â'i gwneud yn glir bod person mewn gwirionedd yn fridiwr/fasnachwr
neu greu argraff ei fod yn ddefnyddiwr. e.e. methu â nodi statws masnach wrth
werthu ci bach; creu argraff y gellir gwerthu ci'n gyfreithiol ond mewn gwirionedd na ellir
gwerthu ci'n gyfreithiol e.e. ci peryglus.
Hepgoriadau neu gamau gweithredu camarweiniol
Mae'r Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg yn gwahardd 'camau
gweithredu camarweiniol' a 'hepgoriadau camarweiniol' sy'n achosi, neu sy'n debygol o
achosi, i'r defnyddiwr arferol wneud penderfyniad trafodiadol gwahanol; hynny yw, unrhyw
benderfyniad a wneir gan y defnyddwyr ynghylch prynu y ci neu p'un ai i arfer hawl
gytundebol mewn perthynas â'r ci, gan gynnwys penderfyniadau i beidio â gweithredu.
Mae hyn yn berthnasol i'r cyfnod o siopa am eitem a'r cyfnod ar ôl prynu'r eitem ac mae'n
parhau gydol oes y ci.
Camau gweithredu camarweiniol
Mae Rheoliad 5 o'r Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg yn gwahardd
rhoi gwybodaeth anwir i ddefnyddwyr neu eu twyllo nhw. Mae camau gweithredu
camarweiniol yn digwydd pan fydd ymarfer yn camarwain drwy'r wybodaeth sydd wedi'i
chynnwys neu wedi'i chyflwyno mewn ffordd dwyllodrus gan achosi, neu fod yn debygol o
achosi, i'r defnyddiwr arferol wneud penderfyniad trafodiadol gwahanol.
Mae nifer o enghreifftiau o gamau gweithredu camarweiniol:
• gwybodaeth gamarweiniol, fel arfer, hysbysebu ci bach fel un sydd wedi'i gofrestru
â'r Kennel Club pan nad yw hynny'n wir;
• camgynrychioli trwy luniau sut y mae ci bach wedi cael ei fagu, rhoi'r argraff bod ci
bach wedi cael ei fagu mewn amgylchedd domestig ond mewn gwirionedd, wedi
cael ei fagu mewn cynelau;
• methu â chadw ymrwymiadau a wnaed yn y côd ymddygiad, e.e. Kennel Club;
• darparu gwybodaeth anwir ynghylch natur, priodoleddau a hawliau'r masnachwr,
e.e. cymwysterau.
Hepgoriadau camarweiniol
Mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg yn gwahardd
rhoi gwybodaeth annigonol am eitem/ci. Mae’n drosedd o’r Rheoliadau yma I beidio â
rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar ddefnyddwyr i wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn
ag eitem petai hwn yn achosi, neu’n debygol o achosi i’r defnyddiwr arferol i wneud
penderfyniad trafodiadol gwahanol e.e. mae’n rhaid i fridiwr cŵn ddarparu gwybodaeth
ynghylch unrhyw lawdriniaeth cywiriadol/triniaeth ar gyfer hernia ac ati.
Arferion ymosodol
Mae Rheoliad 7 y Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg yn gwahardd
ymarferion masnachol ymosodol sy'n cymryd mantais ar ddefnyddwyr neu'n codi ofn
arnynt, gan gyfyngu ar eu gallu i wneud dewisiadau gwybodus neu ddewisiadau rhydd. Er
mwyn i ymarfer ymosodol gael ei ystyried yn annheg, mae'n rhaid iddo achosi, neu fod yn
debygol o achosi, i'r defnyddiwr arferol wneud penderfyniad trafodiadol gwahanol.
Mae arfer masnachol yn ymosodol os yw'n:
• amharu'n sylweddol, neu'n debygol o amharu'n sylweddol ar ymddygiad neu ryddid
defnyddiwr i wneud dewis mewn perthynas â'r eitem drwy ddefnyddio dulliau
aflonyddu, gorfodaeth neu ddylanwadu'n ddiangen; a
• thrwy hynny achosi i'r defnyddiwr wneud penderfyniad trafodiadol gwahanol.
Nodyn: Mae 'gorfodaeth' yn cynnwys defnyddio grym corfforol ac mae 'dylanwadu'n
ddiangen' yn golygu manteisio safle o bŵer mewn perthynas â'r defnyddiwr gan roi
pwysau, hyd yn oed heb ddefnyddio grym corfforol (neu fygwth ei ddefnyddio), mewn
ffordd sy'n cyfyngu'n sylweddol ar allu'r defnyddiwr i wneud penderfyniad gwybodus. e.e.
mynnu bod defnyddiwr yn prynu bwyd ci/yswiriant ci gyda'r ci bach neu roi gwybod i'r
defnyddiwr bod angen iddo/iddi wneud penderfyniad yn y fan a'r lle gan fod cwsmer arall
yn dod i weld y ci bach.
Dyletswydd gyffredinol i beidio â masnachu'n annheg
Mae Rheoliad 3 sef "Gwahardd ymarferion masnachol annheg", mewn gwirionedd yn
golygu methu â gweithredu yn unol â disgwyliadau rhesymol ymarferion masnachu
derbyniol.
Mae'r Rheoliad yn gwahardd ymarferion sy'n:
• mynd yn groes i ofynion diwydrwydd proffesiynol (a ddiffinnir fel safon gofal a sgil
arbennig y gellid disgwyl yn rhesymol i fasnachwr ei defnyddio tuag at ddefnyddwyr,
sy'n gymesur ag ymarfer gonest y farchnad ym maes gweithredu'r masnachwr neu'r
egwyddor gyffredinol o ewyllys da ym maes gweithredu'r masnachwr).
• gwyrdroi'n sylweddol ymddygiad economaidd defnyddiwr cyffredinol (neu'n
debygol o wneud hynny) mewn perthynas â'r eitem hynny yw, amharu'n sylweddol
ar allu defnyddiwr cyffredinol i wneud penderfyniad gwybodus, gan achosi iddynt
wneud penderfyniad trafodiadol na fyddent wedi'i wneud fel arall.
Er enghraifft, gwerthu ci defaid/Springer Spaniel i ddefnyddiwr gan wybod ei fod/bod yn
byw mewn fflat bach.
Camarwain Masnachwyr Eraill
Rheoliadau Diogelu Busnesau rhag Marchnata Annheg
2008
Gall camarwain masnachwr arall drwy hysbyseb ynghylch nodweddion (natur) ci fod yn
drosedd. Caiff hysbyseb ei ddiffinio yn y ddeddfwriaeth fel unrhyw fath o gynrychiolaeth a
wneir mewn cysylltiad â masnach neu fusnes er mwyn hyrwyddo eitem. e.e. ffug ddisgrifio
ci bach ar anfoneb i siop anifeiliaid anwes.
Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw’r erthygl hon yn ddehongliad awdurdodol o’r gyfraith ac fe’i bwriedir fel canllaw byr yn unig. Gall unrhyw ddeddfwriaeth y cyfeirir ati fod wedi cael ei diwygio o’r deddfiad gwreiddiol.
Erthygl flaenorol