Trwyddedu Anifeiliaid Cymru

Am y datblygiadau diweddaraf o ran trwyddedu anifeiliaid yng Nghymru

Trwyddedu Anifeiliaid Cymru yn cael ei anrhydeddu â gwobr cydnabyddiaeth arbennig yng Ngwobrau PawPrints 2024 yr RSPCA

Mae Trwyddedu Anifeiliaid Cymru (TAC) yn falch o gyhoeddi ein bod wedi ennill y wobr gydnabyddiaeth arbennig yng Ngwobrau PawPrints yr RSPCA, gan gydnabod ein cyfraniadau eithriadol i les anifeiliaid. Mae’r anrhydedd fawreddog hon yn amlygu ein hymdrechion parhaus i arloesi a rhagori wrth ddiogelu a hyrwyddo lles anifeiliaid.

Mae Gwobrau PawPrints yr RSPCA yn dathlu awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus, ac unigolion am eu gwaith arloesol ym maes lles anifeiliaid ledled Cymru a Lloegr. Cydnabuwyd Trwyddedu Anifeiliaid Cymru am chwarae rhan drawsnewidiol wrth wella system orfodi lles anifeiliaid ledled Cymru, yn enwedig wrth fynd i’r afael â bridio cŵn yn anghyfreithlon a mewnforio cŵn bach. Gyda thîm arbenigol yn cefnogi awdurdodau lleol, mae TAC wedi helpu i sicrhau erlyniadau sylweddol a chanlyniadau lles cadarnhaol, gan osod safon newydd ar gyfer cysondeb a rhagoriaeth yn y maes. Mae eu rhaglenni hyfforddi arloesol a’u hymdrechion cydweithredol nid yn unig wedi gwella lles anifeiliaid, ond hefyd wedi gosod Cymru fel arweinydd ym maes gorfodi lles anifeiliaid ledled y DU.

Dywedodd Lee Gingell, rheolwr materion cyhoeddus gyda’r RSPCA: “Rydym wrth ein bodd yn cydnabod Trwyddedu Anifeiliaid Cymru gyda’r wobr gydnabyddiaeth arbennig yng Ngwobrau PawPrints yr RSPCA eleni.

“Mae eu hymrwymiad i les anifeiliaid yn wirioneddol glodwiw ac yn adlewyrchu’r safonau uchel y mae gwobrau PawPrints yn anelu at eu dathlu. Drwy ennill y wobr hon, mae Trwyddedu Anifeiliaid Cymru wedi dangos ymroddiad rhagorol i ddiogelu, hyrwyddo a gwella lles anifeiliaid, a gobeithiwn y bydd eu cyflawniadau yn ysbrydoli eraill i ymdrechu am ragoriaeth yn y maes hanfodol hwn."

Erthygl flaenorol
Bydd eich sesiwn yn dod i ben ymhen xx.xx. Ydych chi'n dymuno Parhau neu Allgofnodi
Bydd eich sesiwn yn dod i ben yn xx.xx
Parhau neu Allgofnodi