Mae Trwyddedu Anifeiliaid Cymru wedi ennill Gwobr Arloeswr Lles Anifeiliaid yng Ngwobrau RSPCA PawPrints eleni
Yn gynharach yn y
mis, roedd tîm Trwyddedu Anifeiliaid Cymru yn falch o glywed eu bod wedi ennill
y Wobr Arloeswr Lles Anifeiliaid yng Ngwobrau nodedig RSPCA PawPrints
eleni.
Dywedodd
llefarydd ar ran yr RSPCA bod y wobr wedi ei dyfarnu "am y gwaith gwych
mae Trwyddedu Anifeiliaid Cymru yn ei wneud."
Aeth ymlaen i
egluro bod "Trwyddedu Anifeiliaid Cymru wedi creu argraff arbennig ar y
panel, gan fynd ati’n rhagweithiol i nodi a datblygu’r cyfleoedd o’r
ddeddfwriaeth bresennol i wella lles anifeiliaid ymhellach. Mae'n amlwg
bod Trwyddedu Anifeiliaid Cymru yn fodel arloesol a llwyddiannus. Nododd y
panel gyflawniadau Trwyddedu Anifeiliaid Cymru ers ei sefydlu o ran darpariaeth
gyson mewn amodau, archwiliadau a gorfodaeth, ac roeddynt yn teimlo bod y
gwaith y mae Trwyddedu Anifeiliaid Cymru yn ei wneud yn newydd ac unigryw, sydd
hefyd yn wirioneddol gwella lles anifeiliaid. O ganlyniad, penderfynodd y panel
ddyfarnu Trwyddedu Anifeiliaid Cymru'r Wobr Arloeswr Lles Anifeiliaid.
Mae'r wobr wir yn haeddiannol iawn a gobeithio eich bod chi a'r tîm yn hynod
falch!"
Erthygl flaenorolErthygl Nesaf