Trwyddedu Anifeiliaid Cymru

Am y datblygiadau diweddaraf o ran trwyddedu anifeiliaid yng Nghymru

Twyll microsglodion ar gyfer anifeiliaid anwes

Hoffai Uned Trwyddedi Anifeiliaid Cymru rybuddio bridwyr a chwsmeriaid i wirio eu bod yn delio gyda chwmni  microsglodyn cyfreithlon ac awdurdodedig pan eu bod yn chwilio amdanynt ar-lein.  

Rydym yn ymwybodol fod yna wefannau ffug sydd yn ymddangos fel cwmnïau go iawn  a gallent arwain atoch yn colli eich arian. At hyn, mae gwefannau eraill yn datgan y byddant yn cofrestru eich microsglodyn am ffi ac nid yw hyn yn cael ei wneud.

Er mwyn darllen y rhestr o gronfeydd data sydd wedi eu hawdurdodi gan Lywodraeth y DU, ewch i’r  ddolen  hon.

Os ydych angen cyngor fel cwsmer, yna ffoniwch Cyngor ar Bopeth ar  0808 223 1133.

Mae’r cyhoedd a busnesau yn cael eu hannog i ymuno gyda Friends Against Scams (ar gyfer y cyhoedd) a Businesses Against Scams (ar gyfer busnesau). Mae’r rhain yn ceisio diogelu ac atal pobl a busnesau rhag cael eu twyllo drwy eu hymrymuso i ymladd yn ôl erbyn y twyllwyr.   

 

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Bydd eich sesiwn yn dod i ben ymhen xx.xx. Ydych chi'n dymuno Parhau neu Allgofnodi
Bydd eich sesiwn yn dod i ben yn xx.xx
Parhau neu Allgofnodi