Trwyddedu Anifeiliaid Cymru

Am y datblygiadau diweddaraf o ran trwyddedu anifeiliaid yng Nghymru

Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth newydd ar gyfer gwerthu anifeiliaid anwes

Gwerthu Anifeiliaid fel Anifeiliaid Anwes: yr hyn sydd wedi’i gynnwys a heb ei gynnwys 

Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 (“y rheoliadau”) yn diffinio’r gweithgareddau trwyddedig er mwyn gwerthu anifeiliaid anwes, sy’n gyfyngedig i fusnesau neu’r rhai sy’n gweithredu ar sail fasnachol.

Prawf Busnes
Dylid ystyried dwy enghraifft o brawf busnes wrth benderfynu p’un a ddylid pennu gweithgaredd fel un masnachol, sydd felly o fewn cwmpas y rheoliadau. 

Nid rhain yw’r unig ffactorau y dylid eu hystyried, ond maent yn enghreifftiau, ac mae ffactorau eraill, megis y rhai a restrir yn y naw bathodyn masnach a bennwyd gan CThEM, yn berthnasol hefyd. Mae’r rheoliadau yn berthnasol pan fo’r gweithredwr -

(a) yn gwerthu unrhyw beth, neu’n parhau i wneud hynny, yn sgil y gweithgaredd gyda’r bwriad o wneud elw, neu’n 
(b) ennill unrhyw gomisiwn neu ffi yn sgil y gweithgaredd.

Pan fo person yn meddu ar drwydded o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn)(Cymru) 2014 nid oes rhaid iddo fod â thrwydded o dan y gweithgaredd hwn, ar yr amod bod y person wedi bridio’r cŵn bach neu gŵn llawn eu maint yn ei eiddo personol.

Beth sy’n gymwys? 

Bydd rhaid cael trwydded pan fodlonir un neu fwy o’r meini prawf canlynol:
Mewnforio, dosbarthu a gwerthu anifeiliaid gan fusnes.
Busnesau wedi’i gofrestru â Thŷ’r Cwmnïau.
Busnesau neu unigolion sy’n gweithredu o eiddo domestig at ddibenion masnachol (dylid nod na fydd llawer wedi’u cofrestru â Thŷ’r Cwmnïau o bosibl).
Eiddo sydd ar agor i’r cyhoedd, neu fusnesau eraill, ble y gellir prynu anifeiliaid.

Gellir ystyried y canlynol fel rhan o’r prawf busnes:
Mewnforio, dosbarthu a gwerthu anifeiliaid am ffi sefydlog;
Prynu anifeiliaid gyda’r bwriad o’u gwerthu ymlaen;
Pan fydd anifeiliaid yn cael eu prynu ac yna eu hailhysbysebu ar werth, neu eu gwerthu o fewn cyfnod byr o amser;
Nifer, amlder a/neu swm y gwerthiannau – trafodion systematig a rheolaidd sy’n defnyddio’r un dull o hysbysebu yn debygol o fynegi gweithgaredd masnachol;
Gallai llawer o anifeiliaid yn cael eu gwerthu neu’n cael eu hysbysebu eu bod ar werth, neu nifer uchel o dorllwyth neu epil fod yn arwydd o fusnes;

Beth nad yw’n gymwys?

Ni fydd angen trwydded ar gyfer gweithgareddau sy’n bodloni un neu fwy o’r meini prawf canlynol:

Gwerthu nifer fechan o epil/stoc dros ben o bryd i’w gilydd, a hynny gan unigolyn preifat sy’n bridio anifeiliaid fel hobi, diddordeb, i’w harddangos fel gwobr neu at ddibenion addysgol, astudiaeth neu ddatblygiadau gwyddonol. Efallai nad yw bridiwr sy’n bridio fel hobi yn gwneud hynny gyda’r bwriad o wneud elw. Gall fod yn bridio er mwyn datblygu iechyd y brîd, er mwyn cynhyrchu stoc newydd i’w harddangos neu er mwyn annog parhad mewn brîd prin. Ar gyfer rhywogaethau sydd â gwerth isel a allai gynhyrchu swm uchel o stoc dros ben, dylid ystyried gwerth y stoc a pha mor debygol ydyw bod y gwerthwr yn gwneud elw. Os yw’n gwneud elw, dylid ystyried maint yr elw a ph’un a oedd unrhyw gymhelliant i wneud elw.

Digwyddiadau wedi’u trefnu ble y gall pobl gyfarfod i werthu anifeiliaid y maent wedi’u bridio ac nad ydyntn am eu cadw, neu anifeiliaid nad oes eu hangen arnynt, p’un a yw hyn yn ddigwyddiad cyhoeddus ai peidio. Gwaherddir gwerthu anifeiliaid anwes fel busnes o farchnad neu stondin o dan Adran 2 o Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951.

Busnesau Cynhyrchu Dyframaethyddol sydd wedi’u hawdurdodi o dan reoliad 5(1) o Reoliadau Iechyd Anifeiliaid Dyfrol (Cymru a Lloegr) 2009, ac sy’n cael eu harolygu gan yr Arolygiaeth Iechyd Pysgod.

Ailgartrefu anifeiliaid anfasnachol, gan gynnwys cŵn bach a chathod bach. 

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Bydd eich sesiwn yn dod i ben ymhen xx.xx. Ydych chi'n dymuno Parhau neu Allgofnodi
Bydd eich sesiwn yn dod i ben yn xx.xx
Parhau neu Allgofnodi