Ymchwiliad Safonau Masnach i fridio cŵn anghyfreithlon
Mae ymchwiliad dros gyfnod o 7 mis sydd yn cael ei arwain gan dîm Ymchwilio Rhanbarthol Safonau Masnach Cymru wedi arwain at nifer o asiantaethau yn cydweithio'n agos dros yr wythnos diwethaf. Roedd y gwaith wedi arwain at 15 o gŵn yn cael eu hawlio yn sgil anafiadau neu ddioddefaint difrifol yn sgil eu hamodau byw, ynghyd â bron i 200 o gŵn yn cael eu tynnu oddi ar ffermwr cŵn bach anghyfreithlon yng Nghymru. Mae asedau’r gwerthwr wedi eu rhewi o dan y Ddeddf Enillion Troseddau tra bod ymchwiliadau yn parhau.
Yn sgil natur yr ymholiadau parhaus, nid ydym yn rhyddhau mwy o wybodaeth am y gwaith a wneir gan swyddogion ar y pwynt yma ond mae’r achos yn cynnwys swyddogion o’r Awdurdod Lleol, Heddlu Dyfed Powys, Cyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol, Cyfoeth Naturiol Cymru, RCVS a’r RSPCA.
Mae’r cŵn wedi mynd i gartrefi newydd gyda chefnogaeth Dogs Trust, RSPCA, West Wales Poundies a Hope Rescue.
Dywedodd Gareth Walters, Arweinydd Strategol Safonau Masnach Cymru ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid;
‘Dyma ganlyniad llwyddiannus ar gyfer y cyntaf o nifer o brosiectau sydd wedi eu cynllunio ac mae’n benllanw ar bartneriaeth sylweddol a gefnogir gan Dîm Ymchwilio Rhanbarthol Safonau Masnach Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru ac mae’n hanfodol o ran cefnogi Awdurdodau Lleol na fyddai’n medru delio gyda’r lefel yma o droseddu ar ben eu hunain.
Mae’r sawl sydd yn bridio cŵn bach yn anghyfreithlon yn rhoi mwy o flaenoriaeth ar elw yn hytrach na lles yr anifeiliaid - maent am greu cymaint o elw gyda’r ymdrech a’r buddsoddiad lleiaf posib. Mae hyn yn ddeniadol yn sgil yr elw posib sydd ar gael, gyda chŵn penodol yn gwerthu ar gyfartaledd tua £2,000, ond yn aml yn costio £5,000 ac mae cŵn magu yn aml yn mynd am bris uwch. Mae fel mathau eraill o fasnachu anghyfreithlon, gan gynnwys dosbarthu cyffuriau anghyfreithlon, gwyngalchu arian ac osgoi talu treth. Mae cŵn yn cael eu hystyried fel nwyddau.
Er mwyn mynd i’r afael gyda’r broblem hon, rhaid i ni weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill ac mae hon yn enghraifft wych lle y mae ychydig o gyllid ym maes Safonau Masnach yn medru caniatáu ni sicrhau canlyniad dipyn yn fwy.’
Dywedodd Clive Jones o’r Tîm Ymchwilio Rhanbarthol Safonau Masnach Cenedlaethol;
‘Yn y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o unigolion dieflig wedi dechrau bridio cŵn bach, ac maent yn aml ynghlwm â gweithgareddau troseddol eraill, ac maent yn gwerthu’r cŵn bach yma sydd yn dod o ffermydd cŵn bach anghyfreithlon. Mae’r pandemig wedi cynyddu’r galw ac felly yn golygu bod mwy o elw ar gael i droseddwyr. Mae’r tîm wedi gwneud gwaith gwych yn cyrraedd y pwynt hwn ond mae dal yn ddyddiau cynnar o ran yr ymchwiliad a dwyn yr achosion yma gerbron y llysoedd.
Wrth esgus eu bod yn fridwyr cŵn, mae unigolion na sydd wedi eu trwyddedu yn hysbysebu cŵn bach mewn papurau-newydd, cylchgronau, ac ar-lein yn fwy na dim. Maent yn denu cwsmeriaid drwy ddweud fod y cŵn bach yn rhaid pedigri; ond nid yw hyn yn sicrhau ansawdd. Mae cwsmeriaid wedyn yn gorfod talu cost uchel, yn ariannol ac yn emosiynol, a hynny am gŵn sydd wedi eu magu mewn amgylchiadau truenus. Pan fydd hyn yn digwydd, ychydig iawn o gyfle sydd gan brynwyr i ddernyn iawndal, yn enwedig gan eu bod fel arfer yn talu ag arian parod.’
Mae Safonau Masnach Cymru, drwy gyfrwng y Prosiect Bridio Cŵn, yn ystyried nifer o gynigion o ran y ddeddfwriaeth bresennol a’r gwelliannau y mae modd eu gwneud yn y dyfodol er mwyn cefnogi’r diwydiant cyfreithlon yma yng Nghymru. Mae rhan gyntaf y broses yn cynnwys lansio system wybodaeth Gov.Wales ar-lein a fydd yn cynnig pwynt sengl o gyswllt ar gyfer popeth sydd yn ymwneud gyda bridio cŵn yng Nghymru.
Mae bridwyr cŵn anghyfreithlon yn aml yn bridio cŵn mewn amodau erchyll, ac maent yn medru dal afiechyd os nad yw'r mesurau priodol yn cael eu rhoi yn eu lle. Mae cŵn bach yn medru bod mewn peryg o brofi problemau iechyd cynhenid os nad ydynt wedi eu brechu’n gywir, er enghraifft yn erbyn y gynddaredd, ac mae hyn yn medru golygu fod anifeiliaid a’r cyhoedd wedyn mewn peryg.
Mae clefydau heintus yn medru lledaenu’n hawdd ar ffermydd cŵn bach na sydd wedi eu trwyddedu. Un o’r rhai mwyaf cyffredin yw Parvovirus, clefyd heintus a firaol sydd yn medru peryglu bywydau’r cŵn bach. Ychydig iawn o ystyriaeth sydd yn cael ei roi i iechyd a lles yr anifeiliaid ac mae llawer yn cael eu cadw mewn cybiau bach, sydd yn golygu nad ydynt yn cael gweld golau dydd. At hyn, mae nifer o’r cŵn yma yn medru problemau gyda’u hymddygiad ac nid ydynt yn elwa o’r dyletswyddau cyfreithlon sydd ar fridwyr cŵn masnachol cyfreithlon sydd yn gorfod sicrhau bod eu cŵn yn elwa o gynlluniau ar gyfer eu cymdeithasu a gofalu amdanynt.
Drwy sicrhau bod digon o wybodaeth gennych cyn prynu anifail anwes newydd, rydych mewn sefyllfa well i ddiogelu eich hun a chwarae rhan yn yr ymdrech i gael gwared ar yr arfer erchyll hwn. Os ydych yn bwriadu prynu ci bach newydd, dylech ystyried fabwysiadu un neu ewch at fridiwr cyfreithlon drwy gyfrwng cynllun bridio cŵn bach dilys a/neu Kennel Club UK.
Byddwch yn ofalus o’r hysbysebion ar-lein ar gyfer cŵn bach. Mae teclyn ar-lein am ddim ar gael sydd yn helpu o ran bridio a phrynu cŵn bach, sef y ‘Contract Cŵn Bach’. Mae ar gael yma The Puppy Contract - for responsible puppy breeding and buying.
Dylai unrhyw un sydd yn ystyried cael ci bach newydd siarad gyda’r milfeddyg lleol am gyngor a defnyddio’r ‘Contract Cŵn Bach’ er mwyn osgoi prynu ci bach sydd wedi ei fridio’n anghyfreithlon . Os nad yw gwerthwr yn fodlon darparu’r wybodaeth sydd yn y rhestr neu’n fodlon eich gadael i weld y ci bach yng nghwmni ei fam, yna ni ddylech brynu’r ci bach.
Os ydych yn pryderi fod eich ci bach wedi ei fagu ar fferm anghyfreithlon neu os ydych yn gwybod am rywun sydd yn rhan o fferm cŵn bach na sydd wedi ei thrwyddedu yna cysylltwch gyda Thîm Safonau Masnach eich Cyngor lleol.
Mae modd rhannu unrhyw wybodaeth am fridio cŵn yn anghyfreithlon drwy gysylltu gyda’r Safonau Masnach Cymru ar e-bost wtsintel@newport.gov.uk neu rhowch wybod i Crime Stoppers ar 0800 555 111 neu ewch o http://crimestoppers-uk.org.
Erthygl Nesaf