Canslo nwyddau neu wasanaethau
Ydych chi’n gwsmer sydd wedi:
• cytuno i brynu anifail anwes, ond wedi newid eich meddwl neu’n methu parhau â’r contract?
• cael cais i dalu tâl canslo i’r busnes, ond yn awyddus i herio’r swm?
• colli eich blaendal neu daliad cyntaf, ac yn awyddus i’w gael yn ôl gan y busnes?
Gall cyfraith defnyddwyr eich helpu chi
Peidiwch â derbyn bod gan y busnes hawl i gadw eich blaendal a thaliad cyntaf neu i ofyn i chi dalu tâl canslo os byddwch yn canslo’r contract. Dim ond os bydd telerau’r contract yn deg y gall y busnes wneud hynny.
Nid yw’n deg codi tâl canslo oherwydd bod hynny yn y contract a lofnodwyd gennych – mae’n rhaid iddo fod yn rhesymol.
Weithiau bydd gennych hawl i ad-daliad llawn neu rannol ond ni allwch ddisgwyl yr holl arian yn ôl bob tro os byddwch yn newid eich meddwl.
Gall busnesau gadw eich blaendal neu daliad cyntaf, neu ofyn i chi dalu tâl canslo, mewn amgylchiadau penodol yn unig.
Os byddwch yn canslo’r contract, yn gyffredinol dim ond hawl i gadw neu dderbyn y swm sy’n ddigonol i gwmpasu eu colledion gwirioneddol sy’n cael eu creu yn sgil canslo y mae gan y busnes hawl i’w wneud (ee costau a grëwyd eisoes neu golled).
Rhaid i fusnesau gymryd camau rhesymol i leihau eu colledion (ee drwy ailwerthu’r nwyddau neu wasanaethau).
Dylai’r blaendaliadau na ellir eu had-dalu fod yn ganran fach o gyfanswm y pris.
Rhaid i’r taliadau canslo fod yn amcangyfrif gwirioneddol o golled uniongyrchol y busnes.
Cysylltu â’r busnes
Os bydd gennych unrhyw bryderon, yn gyntaf dylech ofyn i’r busnes esbonio sut y mae wedi cyfrifo’r swm y mae’n ei gadw neu am ei godi arnoch chi am ganslo’r contract.
I gael gwybodaeth neu gyngor
Cysylltwch â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth (03454 040506) i gael cyngor am yr hyn y gallwch ei wneud.
Nid yw’r deunyddiau hyn yn cymryd lle cyngor cyfreithiol, ac ni ddylid dibynnu arnynt fel cyngor cyfreithiol.