Trwyddedu Anifeiliaid Cymru

Am y datblygiadau diweddaraf o ran trwyddedu anifeiliaid yng Nghymru

Cyngor busnes ar werthu anifeiliaid anwes

Sut gallaf wneud cais?

Mae angen y dogfennau dilynol i werthu anifeiliaid anwes:

  • Ffurflen gais
    • Cynllun y safle
    • Cynllun dianc rhag tân
    • Asesiad risg

Mae angen y dogfennau dilynol ar gyfer ceisiadau i fridio cwn:
    • Ffurflen gais
    • Cynllun gwella a chyfoethogi
    • Cynllun cymdeithasu cwn bach
    • Adroddiad iechyd gan eich milfeddyg
    • Cynllun y safle
    • Cynllun dianc rhag tân
    • Asesiad risg

Cyn gwneud cais, rhaid i chi hefyd wneud yn siŵr, lle y bo'n briodol, bod caniatâd cynllunio mewn lle ar gyfer unrhyw adeiladau sy'n rhan o'r safle.

Unwaith y bydd y cais a'r ffi lawn wedi’u derbyn gan yr Awdurdod, bydd archwiliad yn cael ei gynnal yn y safle i wirio bod yr holl amodau sydd eu hangen ar yr Awdurdod yn cael eu bodloni. Bydd y Swyddog/Swyddogion Arolygu, o bosibl gyda milfeddyg ar eu cais, yn gwirio bod yr anifeiliaid â llety addas, yn cael eu bwydo, eu hymarfer, a'u hamddiffyn rhag clefydau a thân, a byddant yn parhau i gael hynny.

Gwnewch gais am drwydded drwy'ch cyngor lleol, chwiliwch am eu manylion cyswllt: YMA

Os ydych chi'n fridiwr cŵn yn Sir Gaerfyrddin a Ceredigion, mae system drwyddedu ar-lein newydd i Gymru yn cael ei threialu yn eich ardal chi.

Rhwng 2ail Medi a’r 1af Tachwedd 2024, os ydych chi’n gwneud cais am drwydded newydd neu’n adnewyddu trwydded sy’n bodoli eisoes yn yr awdurdodau peilot, ewch i wefan Trwyddedu Anifeiliaid Cymru (TAW). Bydd swyddogion TAW yn eich cynorthwyo gyda'r broses o wneud cais. 

Sganiwch y cod QR am ragor o wybodaeth.

A fyddaf yn talu ffi?

Bydd ffi yn daladwy a chaiff ei gosod gan bob Awdurdod Lleol.

Beth yw cyfnod trwydded?

Gellir cyhoeddi trwydded am hyd at 12 mis.

Beth i’w gynnwys yn eich hysbyseb

Fel safle trwyddedig dylech anelu i osod enghraifft wrth hysbysebu eich anifeiliaid a gan fod yn fusnes, rhaid i chi ystyried diogelu defnyddwyr.

Dylai hyn fod yn berthnasol pan fyddwch yn hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.

    • Dylech gynnwys rhif eich trwydded a’r Awdurdod Lleol rydych wedi cofrestru ag ef
    • Fel busnes ni allwch ofyn am flaendal na ellir ei ad-dalu
    • Dylai pob hysbyseb gynnwys manylion cyswllt sef rhif ffôn neu gyfeiriad ebost

Fel bridiwr cŵn trwyddedig, rydym hefyd yn argymell eich bod yn cynnwys:
    • Llun clir o’r Fam gyda’r cŵn bach a rhagor o wybodaeth gan gynnwys enw, oedran ac unrhyw brofion iechyd
    • Rhowch wybod i’r prynwyr bod modd gweld y cŵn bach gyda’r Fam a’r Tad (os yw’n briodol)
    • Gwybodaeth am y Tad gan gynnwys llun, enw, oedran ac unrhyw brofion iechyd
    • Rhowch fanylion am anghenion y brîd, faint o ymarfer corff sydd ei angen, sut i’w drin a’i dacluso a'r math o gartref sy’n addas ar ei gyfer
    • Nodwch pryd y bydd y cŵn bach yn barod a’u hoedran bryd hynny
    • Rhowch fanylion am frechu, trin llyngyr a chwain a microsglodynnu
    • Dylech ystyried darparu pecynnau ar gyfer cŵn bach a rhestru’r hyn y maent yn eu cynnwys, a dylech ystyried amserlen fwydo er mwyn i’r cwsmer wybod pryd i newid i fwyd newydd
    • Dylech ystyried creu contract gwerthu cŵn bach a chynllun cymdeithasoli
    • Dylech gynnwys gwybodaeth amdanoch chi a’ch profiad
    • Gwybodaeth am ddulliau cymdeithasoli, cynlluniau i symud ymlaen a ph’un a ydych yn defnyddio "puppy culture"
    • Cofiwch, dylid cynnal pob gwerthiant gyda’r prynwr yn eich adeiladau
    • Byddwch yn onest ynglŷn ag a yw’r cŵn bach yn cael eu cadw mewn llety cŵn neu yn eich cartref

Rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr

Mae Deddf Cwmnïau 2006 yn nodi beth a sut y dylai gwybodaeth am eich busnes gael ei datgelu i ddefnyddwyr.

Cwmnïau Cyfyngedig
Os yw’ch busnes yn gwmni cyfyngedig, mae’n rhaid cynnwys yr wybodaeth ddilynol ar bob anfoneb, contract, papur pennawd a gwefan:
    • Enw’r Cwmni Cyfyngedig
    • Cyfeiriad y Swyddfa Gofrestredig
    • Rhif y Cwmni
    • Man cofrestru’r Cwmni, hy Lloegr a Chymru
    • Rhif ffôn cyswllt
    • Cyfeiriad ebost
    • Rhif TAW cofrestredig (os yn berthnasol)
    • Prisiau clir (ar y wefan)

Masnachwyr Unigol a Phartneriaethau
Lle mae masnachwr unigol neu bartneriaeth yn cynnal busnes dan enw nad yw yn enw y perchennog neu bartneriaid, rhaid i’w manylion gael eu datgelu’n llawn i ddefnyddwyr a chyflenwyr er mwyn ei gwneud yn glir gyda phwy y maent yn trafod.

Yr wybodaeth sydd angen ei datgelu yw:
    • Enw llawn y perchennog neu’r holl bartneriaid, a
    • Chyfeiriad ar gyfer cysylltu â’r busnes a lle gellir anfon dogfennau cyfreithiol ato

Mae’n rhaid i’r wybodaeth ofynnol:
    • Gael ei dangos mewn lle amlwg ym mhob safle busnes lle mae gan gwsmeriaid a chyflenwyr fynediad
    • Rhoi mewn ysgrifen ar unwaith i unrhyw gwsmer neu gyflenwr sy’n gofyn am wybodaeth am fanylion busnes
    • Ei ddangos mewn modd dealladwy ar bob dogfen busnes:
Llythyrau
Archebion ysgrifenedig ar gyfer nwyddau neu wasanaethau
Anfonebau, derbynebau a chontractau
Hawliadau ysgrifenedig ar gyfer talu
Gwefannau busnes (gofyniad dan Reoliadau Masnach Electronig (Cyfarwyddeb y Comisiwn Ewropeaidd 2002)

Gwerthu anifeiliaid i ffwrdd o'ch safle busnes

Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013 

Contractau Oddi ar y Safle
Os ydych yn cytuno ar gontract yng nghartref defnyddiwr neu i ffwrdd o'ch safle busnes, rhaid i chi ddarparu hysbysiad canslo.  Mae'n drosedd peidio â rhoi hysbysiad canslo yn y sefyllfa hon.

Cyfnod rhybudd canslo yw 14 diwrnod a gellir ei ddarparu naill ai drwy ebost neu fel copi papur. Mae'r 14 diwrnod yn dechrau'r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r anifail yn dod i feddiant corfforol y defnyddiwr.

Mae'n bwysig nodi, os na fyddwch yn darparu'r hysbysiad canslo wrth gytuno ar gontract yng nghartref defnyddiwr, yn ogystal â'i fod yn drosedd, y gallai'r contract fod yn anorfodadwy, sy'n golygu efallai na fydd yn rhaid i'r defnyddiwr dalu.

Contractau ar Bellter
Rhaid i chi hefyd ddarparu hysbysiad canslo 14-diwrnod os ydych yn trafod ac yn cytuno ar gontract (gwerthu) gyda defnyddiwr drwy ddull "wedi trefnu" o gyfathrebu ar bellter, ee dros y ffôn, drwy'r post neu ar-lein. Gall y ddarpariaeth hon fod yn berthnasol pan fyddwch yn cymryd blaendal dros y ffôn neu drwy ebost ar gyfer anifail a hysbysebir ar eich gwefan, hyd yn oed os telir y balans wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, rhaid i'r contract gynnwys cynllun wedi'i drefnu ar gyfer gwerthu anifeiliaid anwes. Nid yw gwerthu anifail "untro" dros y ffôn yn gynllun wedi'i drefnu ar gyfer gwerthu anifeiliaid anwes.

Yr Hysbysiad Canslo
Pan fo angen hysbysiad canslo, rhaid ei ddarparu yn y fformat rhagnodedig.  Fodd bynnag, nid yw'n ofynnol i'r cwsmer ddefnyddio'r ffurflen ganslo rydych yn ei darparu, ond rhaid iddynt ganslo'n ysgrifenedig, naill ai drwy bostio, danfon â llaw neu ebostio’r bwriad i ganslo.

Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015

Mae hawl gan gwsmer, yn ôl y gyfraith, i ddisgwyl bod yr anifeiliaid anwes y maent yn prynu yn cydymffurfio gyda’r contract. Mae hyn yn golygu y dylai’r anifeiliaid anwes yr ydych yn gwerthu fod:
    • O ansawdd boddhaol, hy yn iachus
    • Yn addas i’r diben (ac unrhyw ddiben yr ydych wedi nodi ee bridio, arddangos mewn sioeau)
    • Yn cydymffurfio gyda’r disgrifiad, ee Cocker Spaniel, wedi cofrestru gyda’r Kennel Club, "wedi ei fagu yng nghartref y teulu"

A oes hawl gan gwsmer i dderbyn ad-daliad, atgyweiriad neu gyfnewid yr anifail?
Os nad yw'r anifeiliaid yn cydymffurfio gyda’r contract, mae hawl gyfreithiol gan y cwsmer i dderbyn un o’r camau unioni yma:
    • Ad-daliad llawn neu rannol
    • Atgyweiriad neu gyfnewid, ee ci bach newydd, ffioedd milfeddyg ayyb
    • Gostyngiad mewn pris
    • Digolledi am unrhyw golledion, ee ffioedd milfeddyg

Mae’r camau unioni y mae’n rhaid i chi gymryd yn ddibynnol ar amgylchiadau pob un gwerthiant, ee pa mor hir y mae’r cwsmer wedi bod yn berchen ar yr anifail cyn bod y broblem yn dod i’r amlwg.

Fodd bynnag, nid oes hawl gyfreithiol gan gwsmeriaid i elwa o unrhyw gamau unioni os oeddynt yn gwybod am y problemau cyn prynu’r anifail anwes, ee os rhoddwyd gwybod i’r cwsmer am ddiffyg iechyd geneteg cyn prynu’r anifail anwes.

Y cyfnod ar gyfer cymryd camau
Mae’r gyfraith yn cyfyngu ar yr amser y mae cwsmeriaid yn medru cymryd camau cyfreithiol. Yn Lloegr a Chymru, mae’r cyfnod hwn fel arfer yn chwe blynedd ers prynu neu dderbyn yr hyn sydd dan sylw.   

Yr hawl tymor byr i wrthod
Os nad yw'r anifail, pan gaiff ei roi i’r prynwr, yn debyg i’r hyn a ddisgrifiwyd neu os nad yw o ansawdd digonol neu os nad yw’n addas i’r diben, mae yna gyfnod byr pan mae hawl gan y prynwyr i wrthod yr anifail. Mae’r hawl tymor byr i wrthod anifeiliaid yn parhau am 30 diwrnod, sydd yn dechrau pan fydd y cwsmer yn derbyn/yn dechrau bod yn gyfrifol am yr anifail anwes.

Pan fydd cwsmer yn gwrthod anifail, mae ef/hi yn medru hawlio ad-daliad a rhaid dychwelyd yr anifail anwes. Mae’n rhaid rhoi’r ad-daliad heb oedi, ac o fewn 14 diwrnod i’r prynwr yn cytuno i roi’r ad-daliad.   

Atgyweirio neu Gyfnewid   
Pan fydd contract yn cael ei dramgwyddo, ond os yw’r cwsmer wedi colli neu wedi dewis peidio â defnyddio ei hawl i wrthod yr anifail, bydd hawl ganddo ef/ganddi hi, yn y lle cyntaf, i hawlio iawndal (ee yr hawl i dderbyn costau am ffioedd milfeddyg) neu i ofyn am anifail arall.

Os oes iawndal neu anifail arall yn cael ei hawlio, rhaid i’r gwerthwr wneud hyn gan sicrhau nad yw’r prynwr yn gorfod talu unrhyw gostau, a rhaid gwneud hyn o fewn cyfnod amser rhesymol heb achosi anghyfleustra sylweddol. Os nad oes iawndal neu anifail arall ar gael neu os yw hyn aflwyddiannus, neu os nad yw hyn yn cael ei ddarparu o fewn cyfnod amser rhesymol heb achosi anghyfleustra sylweddol, mae’r sawl sydd yn prynu yn medru hawlio gostyngiad yn y pris neu wrthod yr anifail.

Rhaid i unrhyw ostyngiad mewn pris fod yn briodol a bydd yn ddibynnol ar amgylchiadau’r cais. Mae’n medru bod yn unrhyw swm i fyny at y pris llawn.

Os yw’r cwsmer yn gwrthod yr anifail, mae’r hawl gan y cwsmer i dderbyn ad-daliad. Mae’r ad-daliad yn medru ystyried unrhyw ddefnydd y mae’r cwsmer wedi ei gael o’r anifail anwes.

Noder os caiff yr anifail ei wrthod o fewn chwe mis ar ôl ei dderbyn gan y cwsmer, mae’r hawl gan y cwsmer, yn y rhan fwyaf o achosion, i dderbyn ad-daliad llawn.   

Y baich profi
Os yw’r cwsmer yn dewis iawndal, anifail arall, gostyngiad mewn pris neu’r hawl derfynol i wrthod yr anifail ac os yw’r diffyg wedi ei nodi o fewn chwe mis ar ôl derbyn yr anifail, caiff ei gymryd yn ganiataol fod y diffyg yno pan gafodd yr anifail ei werthu oni bai bod y gwerthwr yn medru profi fel arall. Os oes mwy na chwe mis wedi mynd heibio, rhaid i’r cwsmer brofi fod y diffyg yno pan werthwyd yr anifail.

Rhaid iddynt brofi hefyd fod y diffyg yno  pan werthwyd yr anifail os ydynt am arfer eu hawliau tymor byr i wrthod y nwyddau.  

Telerau contract annheg 
Esiamplau o delerau contract sydd o bosib yn annheg:
    • Telerau sydd yn golygu nad oes yna atebolrwydd am dramgwyddo'r contract, ee "Ni ellir rhoin sicrwydd am oedran neu iechyd y ci bach"
    • Ffioedd gormodol a chosbau anghymesur, ee "Os yw’r cwsmer yn canslo’r contract neu’n methu casglu’r anifail, bydd y cwsmer yn colli’r blaendal llawn  50% sydd wedi ei dalu  i’r gwerthwr"

Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008

Mae’r Rheoliadau Diogelu Cwsmeriaid rhag Masnachu Annheg 2008 (a adnabyddir fel RhDC) yn rheoli’r arferion annheg a ddefnyddir gan werthwyr pan yn delio gyda chwsmeriaid a’n creu troseddau ar gyfer masnachwyr sydd yn eu tramgwyddo. Mae’r ddeddfwriaeth wedi disodli’r Ddeddf Disgrifiadau Masnachu 1968.

Telerau teg ar gyfer eich cwsmeriaid (publishing.service.gov.uk)

Beth sydd wedi ei wahardd?
Mae RhDC yn gwahardd arferion masnachu sydd yn annheg i gwsmeriaid. Mae pedwar math o arferion y dylid eu hystyried:
    • Arferion sydd wedi eu gwahardd o dan pob math o amgylchiadau
    • Camau camarweiniol ac esgeulustra
    • Arferion ymosodol
    • Dyletswydd gyffredinol i beidio masnachu’n annheg

Arferion sydd wedi eu gwahardd o dan bob math o amgylchiadau – mae’r rhain yn cynnwys:
    • Ardystiadau neu awdurdodi ffug:
    • Honiadau ffug o fod yn aelod o gymdeithasau masnachu neu wedi arwyddo’r cod ymarfer, ee Achrediad gyda’r Kennel Club
    • Cyd-destun neu effaith sy’n gamarweiniol:
    • Methu esbonio’n eglur bod person yn fridiwr neu masnachwr neu’n creu’r argraff ei fod yn gwsmer, ee ymatal rhag esbonio eich statws masnachu pan yn prynu anifail
    • Creu’r argraff bod anifail yn medru cael ei werthu’n gyfreithlon pan nad yw hyn yn wir, ee os yw’n gi peryglus

Camau camarweiniol ac esgeulustra
Mae’r RhGC yn gwahardd "camau camarweiniol" ac "esgeulustra camarweiniol" sydd yn achosi, neu’n debygol o achosi, bod cwsmer cyffredin yn cymryd penderfyniad  trafodiadol gwahanol. Hynny yw, unrhyw benderfyniad a wneir gan y cwsmer ynglŷn â phrynu’r anifail neu os am arfer hawl gyfreithiol o ran yr anifail, gan gynnwys penderfyniadau i weithredu ai peidio. Nid yw hyn yn ymwneud gyda’r cyfnod cyn prynu’r anifail yn unig ond hefyd ar ôl prynu’r anifail ac mae’n parhau tra y bydd yr anifail amser yn fyw.

Camau camarweiniol
Mae Rheoliad 5 o RhGC yn gwahardd rhoi gwybodaeth ffug i gwsmeriaid neu dwyllo cwsmeriaid. Mae camau camarweiniol yn cynnwys rhywbeth sydd yn gamarweiniol yn sgil y wybodaeth a gynigir  neu’r modd y caiff ei gyflwyno, a phe bai’r wybodaeth gywir ar gael, byddai hyn yn debygol o wneud i gwsmer i gymryd penderfyniad trafodiadol gwahanol.

Mae sawl enghraifft o gamau camarweiniol:
    • Gwybodaeth gamarweiniol fel hysbysu ci bach fel ci sydd wedi ei gofrestru gyda’r Kennel Club pan nad yw hyn yn wir
    • Rhoi camargraff ar ffurf lluniau o’r modd y mae’r anifail anwes wedi ei fagu, gan roi’r argraff ei fod wedi ei fagu mewn cartref pan ei fod mewn gwirionedd wedi ei fagu mewn adeiladau eraill
    • Methu cydymffurfio gyda’r ymrwymiadau yn y cod ymarfer, ee Kennel Club ar gyfer cŵn neu'r GCCF ar gyfer cathod
    • Darparu gwybodaeth ffug am natur, rhinweddau a hawliau’r masnachwr, ee cymwysterau

Esgeulustra camarweiniol 
Mae Rheoliad 6 o’r RhGC yn gwahardd rhoi gwybodaeth annigonol am gynnyrch neu anifail. Mae’r RhGC yn cael ei dramgwyddo os yw gwerthwr yn methu rhoir’ wybodaeth sydd angen ar gwsmer i fedru gwneud penderfyniad, pe bai’r wybodaeth hon yn arwain at gwsmer cyffredin yn gwneud penderfyniad trafodiadol gwahanol, ee rhaid i’r bridiwr cŵn ddarparu unrhyw wybodaeth am lawdriniaeth neu triniaeth hernia ayyb.

Arferion ymosodol
Mae Rheoliad 7 o’r RhGC yn gwahardd arferion masnachol ymosodol sydd yn aflonyddu neu’n ecsbloetio cwsmeriaid, yn cyfyngu ar eu gallu i wneud dewisiadau heb bwysau. Os yw arferion ymosodol yn cael eu hystyried yn annheg, rhaid bod yr arferion yma yn achosi, neu’n debygol o achosi, y cwsmer i wneud penderfyniad trafodiadol gwahanol.

Mae practis masnachol yn ymosodol os yw’n:
    • Effeithio’n sylweddol, neu’n debygol o effeithio’n sylweddol, ar ryddid y cwsmer i benderfynu neu ymddwyn fel y myn, a hynny o ganlyniad i aflonyddwch, gorfodaeth neu ddylanwad gormodol, ac felly’n achosi’r cwsmer i wneud penderfyniad trafodiadol gwahanol

Noder mae "gorfodaeth" yn cynnwys y defnydd o rym corfforol ac mae "dylanwad gormodol" yn golygu ecsbloetio’r sefyllfa er mwyn rhoi pwysau ar y cwsmer, hyd yn oed heb ddefnyddio grym corfforol (neu’n bygwth defnyddio grym corfforol), mewn ffordd sydd yn cyfyngu ar allu’r cwsmer i wneud penderfyniad gwybodus, ee yn mynnu bod y cwsmer yn prynu bwyd ar gyfer yr anifail anwes/yswiriant penodol gyda’r anifail neu’n dweud bod angen i’r cwsmer i wneud penderfyniad yn syth gan fod eraill yn dod i weld yr anifail anwes.    

Dyletswydd gyffredinol i beidio masnachu’n annheg  
Mae Rheoliad 3 yn cael ei alw’n "Gwahardd arferion masnachol annheg", sydd yn golygu methu gweithredu’n unol gyda’r disgwyliadau rhesymol o arferion masnachu derbyniol.

Mae’r rheoliadau yn gwahardd arferion sydd yn:
    • Tramgwyddo gofynion diwydrwydd proffesiynol, fel sydd wedi ei ddiffinio fel safon y sgiliau a’r gofal arbennig  y mae disgwyl i werthwr ei arddangos tuag at gwsmeriaid, sydd yn gymesur gydag arferion marchnad onest ym maes y gwerthwr neu gyda’r egwyddor o ewyllys da ym maes y gwerthwr
    • Yn effeithio’n faterol ar ymddygiad economaidd y cwsmer cyffredin (neu’n debygol o wneud hyn) o ran y cynnyrch – hynny yw, yn effeithio ar allu'r cwsmer i wneud penderfyniad gwybodus, gan achosi iddynt wneud penderfyniad trafodiadol na fyddent wedi gwneud fel arall, ee yn gwerthu Border Collie/Springer Spaniel i gwsmer gan wybod ei fod ef/hi yn byw mewn fflat bach
Rheoliadau Diogelu Busnesau o Farchnata Camarweiniol 2008

Mae camarwain masnachwr arall drwy gyfrwng hysbyseb ynglŷn â nodweddion (natur) anifail yn medru bod yn drosedd. Mae hysbyseb yn cael ei ddiffinio o fewn deddfwriaeth fel unrhyw ffurf o sylwadau sydd yn ymwneud gyda masnach neu fusnes er mwyn hyrwyddo’r hyn sydd yn cael ei gyflenwi, ee disgrifio ci bach yn ffals ar anfoneb i siop sy’n gwerthu anifeiliaid anwes.  

Noder os gwelwch yn dda: Nid yw’r wybodaeth hon yn ddehongliad awdurdodol o’r gyfraith ac yn ganllaw yn unig. Efallai bod unrhyw ddeddfwriaeth y cyfeirio ati, er dal yn berthnasol, wedi ei diwygio ers cael ei chyflwyno’n wreiddiol.

Bydd eich sesiwn yn dod i ben ymhen xx.xx. Ydych chi'n dymuno Parhau neu Allgofnodi
Bydd eich sesiwn yn dod i ben yn xx.xx
Parhau neu Allgofnodi